Discover

Darganfyddwch

LEIN

CALON CYMRU

THE HEART OF WALES LINE

Llawer i’w garu...

A lot to love...

Darganfyddwch

Discover

THE HEART

OF WALES LINE

LEIN CALON CYMRU

A lot to love...

          Llawer i’w garu...      

Rheilffordd wledig ysblennydd rhwng Abertawe a’r Amwythig yw Lein Calon Cymru. Ar hyd o bryd Trafnidiaeth Cymru sy’n gyfrifol am y gwasanaeth trên saith diwrnod yr wythnos. Mae’n boblogaidd gan deithwyr dydd a cherddwyr ac mae’r lein hefyd yn darparu cyswllt cludiant hanfodol i gymunedau gwledig a threfi bywiog yng Nghanolbarth Cymru a’r Gororau.

Mae Lein Calon Cymru’n cysylltu â’r prif reilffyrdd a rheilffyrdd trefol ar draws Rhwydwaith y DU trwy Crewe, yr Amwythig, Craven Arms, Llanelli, Abertawe a Chaerdydd.

Cwmni Datblygu Lein Calon Cymru sy’n gyfrifol am y safle, gan hyrwyddo a datblygu Lein Rheilffordd Calon Cymru er budd y bobl sy’n byw/gweithio’n lleol, busnesau lleol ac wrth gwrs, ymwelwyr.

Rydym yn falch i fod yn rhan o Gymuned Rheilffyrdd Cymru, a gefnogir gan gynghorau, y diwydiant rheilffyrdd a Llywodraeth Cymru.

Y DAITH


Mae’r daith yn croesi dwy draphont ysblennydd yng Nghnwclas a Chynghordy ac yn mynd trwy chwe thwnnel, gan gynnwys un ar y llwybr godidog i Ben y Fâl. Gwasanaethir dros 30 gorsaf gan y lein, gyda rhai ohonynt yn arosfannau ar gais. 


Mae trenau ar hyd Lein Calon Cymru yn galw ymhob gorsaf sy'n gysylltiedig â'r llwybr cerdded pellter newydd gwych. Os ydych yn hoffi cerdded, beth am neidio ar drên a cherdded o un orsaf i'r nesaf ar hyd Llwybr Lein Calon Cymru? 

Mae lein Calon Cymru yn rhedeg trwy olygfeydd dramatig o fynyddoedd, coedwigoedd, afonydd gwyllt, dolydd gwyrddion a threfi a phentrefi pert ar draws Swydd Amwythig, Powys, Sir Gaerfyrddin a Dinas a Sir Abertawe. Ceir gwasanaeth trên cyfyngedig ond rheolaidd a ddarperir gan Trafnidiaeth Cymru. 

Rydym yn edrych ymlaen at weld gwelliannau mawr i'r gwasanaeth yn 2022/23. Gair mawr o ddiolch i bawb a fu'n ymgyrchu am y gwelliannau hyn.



Share by: