|
|
|
The National Assembly for Wales
Record of Proceedings - 16 November 2005
|
Kirsty Williams: Elin Jones, Eleanor Burnham and Nick Bourne
have asked to make a contribution to this debate, and I am happy
for them to do so. Since I took up the economic development and
transport portfolio, I have often likened the Minister's economic
focus to that of a Polo mint, as it has a great big hole in the
middle. Sometimes I feel that his transport policy follows the same
pattern. The heart of Wales line is one of this country's treasures
and the Minister, given his family links with the area and the line
in particular, should be aware of its attributes and its potential.
For the uninitiated among you, the heart of Wales line, originally
known as the central Wales line, runs for 121 miles from Swansea
to Shrewsbury, via the length of Brecon and Radnorshire, passing
through 32 stations, mostly unmanned request stops, including that
of Bynea, the village in which I grew up and from where, as a teenager,
I used to catch the train to go to Liberal Democrat meetings in
Llandrindod Wells. Some would say that the line has a lot to answer
for.
|
Kirsty Williams: Mae Elin Jones, Eleanor Burnham a Nick
Bourne wedi gofyn am gael cyfrannu at y ddadl hon ac yr wyf yn fodlon
iddynt wneud hynny.Ers imi fod yn gyfrifol am y portffolio datblygu
economaidd a thrafnidiaeth, yr wyf yn aml wedi cyffelybu ffocws
economaidd y Gweinidog i'r 'Polo mint', gan fod iddo dwll mawr yn
y canol. Weithiau teimlaf y bydd ei bolisi trafnidiaeth yn dilyn
yr un patrwm. Ystyrir rheilffordd Calon Cymru fel un o drysorau'r
wlad hon, ac o gofio cysylltiadau teuluol y Gweinidog â'r
ardal a'r rheilffordd yn arbennig, dylai fod yn ymwybodol o'i phriodoleddau
a'i photensial. I'r rheini ohonoch nad ydych yn gyfarwydd â
hi, mae rheilffordd Calon Cymru, a adwaenwyd yn wreiddiol fel rheilffordd
canol Cymru, yn mesur 121 milltir o hyd ac yn mynd o Abertawe i
Amwythig, ac o un pen i Frycheiniog a Maesyfed i'r llall gan basio
drwy 32 o orsafoedd, a'r rheini yn bennaf yn orsafoedd lle nad oes
neb ar ddyletswydd lle yr ydych yn gofyn i'r trên aros, gan
gynnwys gorsaf Bynea, y pentref lle'm magwyd. Oddi yno, yn fy arddegau,
arferwn ddal y trên i fynd i gyfarfodydd y Democratiaid Rhyddfrydol
yn Llandrindod. Byddai rhai yn dweud bod gan y rheilffordd honno
lawer i ateb drosto.
|
|
The line was opened in a piecemeal fashion by five railway companies
between 1839 and 1868. Since then, it has enjoyed mixed fortunes,
with the rise of the spa towns of mid Wales and the Glanrhyd bridge
disaster of 1987, when three people lost their lives. At present,
as part of the Arriva all-Wales franchise, four trains a day run
each way from Monday to Saturday, with two trains on a Sunday. It
should be acknowledged that the Sunday service is part funded by
the Welsh Assembly Government and local authorities, for which we
are grateful. All trains run end to end on a journey that lasts
approximately four hours, through some of the most dramatic scenery
in Wales. In fact, the line offers everything, from our industrial
heartlands in cities such as Swansea, to the seaside, some of our
most fantastic countryside, mountains and viaducts, and the rolling
countryside of the Marches.
|
Agorwyd y rheilffordd fesul tipyn gan bum cwmni rheilffordd rhwng
1839 a 1868. Ers hynny, cymysg fu tynged y rheilffordd, gyda thwf
trefi'r ffynhonnau yn y Canolbarth a thrychineb pont Glanrhyd yn
1987 pan fu farw tri pherson. Ar hyn o bryd, fel rhan o fasnachfraint
Arriva drwy Gymru, mae pedwar trên yn rhedeg y ddwy ffordd
bob dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn gyda dau drên ar ddydd
Sul. Dylid cydnabod y caiff y gwasanaeth hwn ar ddydd Sul ei ariannu'n
rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac awdurdodau lleol ac yr
ydym yn ddiolchgar iddynt am hyn. Bydd pob trên yn rhedeg
o un pen i'r llall ar daith sy'n para oddeutu pedair awr, drwy rai
o olygfeydd mwyaf dramatig Cymru. Yn wir, mae'r rheilffordd yn cynnig
popeth, o'n canolfannau diwydiannol mewn dinasoedd fel Abertawe,
i lan y môr, rhai o'n golygfeydd cefn gwlad mwyaf godidog,
mynyddoedd a thraphontydd a chefn gwlad bryniog y Gororau.
|
|
The service is provided by 72-seat class 153 trains, for those
of you who do not know these things-if you are very lucky, you will
get a class 150 train. It enjoys strong local support, with the
majority of stations having been adopted by local groups, including
those in Llanwrtyd Wells and Dolau, which have both won national
awards for their efforts. It has an active travellers association
and forum, to which I am grateful for help in preparing for today
and for the trip that we made together on the train last Thursday.
I believe that it is their enthusiasm, and that of the development
officers who work on the line, that has meant that the numbers of
passengers increased by 34 per cent between 1993 and 2005, despite
a worse timetable. This has largely been achieved through better
marketing of the line and innovative promotions, including the new
48-hour ranger ticket, the soup-and-stroll ticket and the rail-and-roast
ticket, hosted in conjunction with local hotels and pubs in the
area, as well as the jazz trains that run on the first Sunday of
every month. The line also runs the only regular parcel traffic
service on British Rail routes, with deliveries of fresh fish daily
to the Lasswade Country House Hotel in Llanwrtyd Wells, which is
well worth a visit.
|
Darperir y gwasanaeth gan drenau dosbarth 153 ag iddynt 72 o seddau,
i'r rheini ohonoch nad ydych yn deall y pethau hyn-os ydych yn lwcus
iawn cewch drên dosbarth 150. Caiff gefnogaeth leol gref,
ac mae'r rhan fwyaf o'r gorsafoedd wedi'u mabwysiadu gan grwpiau
lleol, gan gynnwys y rheini yn Llanwrtyd a Dolau sydd wedi ennill
gwobrau cenedlaethol am eu hymdrechion. Mae cymdeithas a fforwm
teithwyr gweithgar yn perthyn iddi ac yr wyf yn ddiolchgar iddynt
am eu cymorth wrth baratoi ar gyfer heddiw a'r daith a wnaethom
ar y trên ddydd Iau diwethaf. Credaf mai eu brwdfrydedd hwy
a'r swyddogion datblygu sy'n gweithio ar y rheilffordd sy'n gyfrifol
am y ffaith i niferoedd y teithwyr gynyddu 34 y cant rhwng 1993
a 2005, er gwaethaf amserlen waeth. Cyflawnwyd hyn yn bennaf drwy
farchnata'r rheilffordd yn well a thrwy hyrwyddiadau arloesol, gan
gynnwys y tocyn crwydro 48 awr a'r tocyn 'soup-and-stroll' a'r tocyn
'rail-and-roast' a weithredir ar y cyd â gwestai a thafarndai
lleol yn yr ardal, yn ogystal â'r trenau jazz sy'n rhedeg
ar Sul cyntaf pob mis. Mae'r rheilffordd hefyd yn gweithredu'r unig
wasanaeth cludo parseli rheolaidd ar Reilffyrdd Prydain gan gyflenwi
pysgod ffres bob dydd i westy'r Lasswade Country House yn Llanwrtyd,
sydd yn werth ymweld ag ef.
|
|
Therefore, this is by no means a lame-duck line that no-one wants,
uses or appreciates. I would argue that it is one of Wales's most
under-exploited transport and tourism assets, which has huge market
potential, both locally and further afield. It could play a role
in promoting many of the Assembly Government's strategic aims, in
terms of its commitment to sustainable development in providing
non-car local transport opportunities for local people, economic
development, tourism opportunities and health promotion. The line
is particularly popular with ramblers, who use it to reach mid Wales
before enjoying the walks in the area and the mountain biking and
other outdoor pursuit activities that we do so well in Brecon and
Radnorshire.
|
Felly, nid rheilffordd gloff mohoni nad oes ar neb ei heisiau,
ac nad oes neb yn ei defnyddio na'i gwerthfawrogi. Buaswn yn dadlau
mai hon yw un o'r asedau trafnidiaeth a thwristiaeth sydd wedi'i
hyrwyddo leiaf yng Nghymru ac sydd â photensial aruthrol o
ran y farchnad, yn lleol a thu hwnt. Gallai chwarae rhan wrth hyrwyddo
llawer o nodau strategol Llywodraeth y Cynulliad o ran ei hymrwymiad
i ddatblygu cynaliadwy gan ddarparu cyfleoedd trafnidiaeth lleol
nad ydynt yn ymwneud â'r car, datblygu economaidd, cyfleoedd
twristiaeth a hybu iechyd. Mae'r rheilffordd yn arbennig o boblogaidd
gyda cherddwyr, sy'n ei defnyddio i gyrraedd y Canolbarth cyn mwynhau'r
llwybrau cerdded yn yr ardal a'r beicio mynydd a'r gweithgareddau
awyr agored eraill a wnawn mor dda ym Mrycheiniog a Maesyfed.
|
|
What factors hinder realising this potential? First, the timetable
is driven by the need to minimise operating costs, rather than to
meet the needs of passengers. There are long gaps between trains,
between three and five hours, with the last train from each end
of the line leaving prohibitively early-5.30 p.m. from Swansea and
5.45 p.m. from Shrewsbury. This means that visitors to the area
and local people returning from a day out cannot travel from further
afield. For example, a day trip to London for my constituents in
Llandrindod Wells, although hugely desirable to them, is impossible.
|
Pa ffactorau sy'n llesteirio gwireddu'r potensial hwn? Yn gyntaf,
caiff yr amserlen ei rheoli gan yr angen i sicrhau'r costau gweithredu
lleiaf posibl, yn hytrach na diwallu anghenion teithwyr. Mae bylchau
hir rhwng trenau, rhwng tair a phum awr, gyda'r trên olaf
o bob pen o'r rheilffordd yn gadael yn anghyfleus o gynnar-5.30
p.m. o Abertawe a 5.45 p.m. o Amwythig. Golyga hyn na all ymwelwyr
i'r ardal a'r bobl leol sy'n dychwelyd o ddiwrnod allan deithio
ymhellach. Er enghraifft, er y byddai fy etholwyr yn Llandrindod
yn mwynhau taith diwrnod i Lundain, nid yw hyn yn bosibl.
|
|
Matters will only be made worse by the introduction of Arriva's
new standard pattern timetable. It will bring improvements to many
parts of the railway infrastructure in Wales, but, unfortunately,
the heart of Wales line will be a loser.
|
Dim ond gwaethygu a wna pethau wrth i Arriva gyflwyno amserlen
patrwm safonol newydd. Bydd yn gwella llawer o'r seilwaith rheilffyrdd
yng Nghymru, ond yn anffodus, ni fydd rheilffordd Calon Cymru ar
ei hennill.
|
|
As I have said, the trains run end to end, which again curtails
the running of trains at passenger-friendly times. The current 4.36
a.m. service from Swansea starts at that time not because there
is a barrage of passengers wanting to get on the train then, but
simply to enable the train to get to Shrewsbury by 9 a.m.
|
Fel y dywedais, mae'r trenau'n rhedeg o un pen i'r llall sydd unwaith
eto yn cwtogi ar y trenau a ddarperir ar amseroedd sy'n gyfeillgar
i deithwyr. Mae'r gwasanaeth presennol o Abertawe am 4.36 a.m. yn
dechrau bryd hynny nid am fod haid o deithwyr yn dymuno teithio
ar y trên ar yr adeg honno, ond yn syml, er mwyn galluogi'r
trên i gyrraedd Amwythig erbyn 9 a.m.
|
|
On the rolling stock, the train operating companies have to pay
an amazing sum of money to lease old rolling stock. Do not get me
started on the leasing arrangements under the new privatised train
system; that is a subject for a whole new debate. However, it means
that we have huge costs that force Arriva to tailor its timetable
to optimise its use of rolling stock, rather than to address the
needs of passengers. The 153 units have a poor reliability record,
can carry few bicycles-which we desperately need to be carried on
the line-little bulky luggage, and offer poor visibility, and this
on a line that is supposedly promoted as scenic. For those of you,
unlike the Deputy Presiding Officer I am sure, who are unfamiliar
with the 153 carriage, the windows are very high up, so if you want
to look out, it is difficult to do so.
|
O ran y cerbydau, mae'n rhaid i'r cwmnïau sy'n gweithredu'r
trenau dalu symiau anhygoel o arian i brydlesu hen gerbydau. Peidiwch
â sôn wrthyf am y trefniadau prydlesu o dan y system
trenau wedi'u preifateiddio newydd; mae hynny'n destun dadl newydd.
Fodd bynnag, golyga fod gennym gostau aruthrol sy'n gorfodi Arriva
i deilwra ei amserlen i sicrhau ei fod yn gwneud y defnydd gorau
o'i gerbydau, yn hytrach na mynd i'r afael ag anghenion y teithwyr.
Nid oes gan yr unedau 153 record dda o ddibynadwyedd, dim ond ychydig
o feiciau y gallant gludo-sef rhywbeth y mae angen dybryd amdano
ar y rheilffordd hon-prin yw'r bagiau mawr y gellir eu cludo arnynt,
ac nid ydynt yn caniatáu i chi weld yn dda iawn; hynny ar
reilffordd a gaiff ei hyrwyddo fel rheilffordd ag iddi olygfeydd
ysblennydd. I'r rheini ohonoch, ar wahân i'r Dirprwy Lywydd
yr wyf yn siwr, nad ydych yn gyfarwydd â'r cerbyd 153, mae'r
ffenestri'n uchel iawn, felly os ydych am edrych allan, mae'n anodd
gwneud hynny.
|
|
What can we do to develop the services on the heart of Wales line,
and what am I asking Andrew Davies and the Welsh Assembly Government
to do today? The first priority is to reinstate the fifth train.
We had one once and when it was cut, the number of people using
the line dropped dramatically. So we need to reintroduce the fifth
train, to reduce service intervals and make the timetable suitable
for a wider range of passengers.
|
Beth y gallwn ei wneud i ddatblygu'r gwasanaethau ar reilffordd
Calon Cymru a beth yr wyf yn gofyn i Andrew Davies a Llywodraeth
Cynulliad Cymru ei wneud heddiw? Y flaenoriaeth gyntaf yw ailddechrau'r
pumed trên. Bu un gennym unwaith a phan y'i diddymwyd, gwelwyd
gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl a ddefnyddiai'r rheilffordd.
Felly mae angen inni ailgyflwyno'r pumed trên i leihau'r bylchau
yn y gwasanaeth ac i sicrhau bod yr amserlen yn fwy addas i ystod
ehangach o deithwyr.
|
|
We need to introduce later last trains so that people can travel
to the area from further afield and my sixth-form students from
John Beddoes High School in Presteigne can come home from Shrewsbury
a little later than they can at the moment, so they tell me.
|
Mae angen inni gyflwyno trenau olaf hwyrach fel y gall pobl deithio
i'r ardal o bell ac y gall fy myfyrwyr chweched dosbarth o Ysgol
Uwchradd John Beddoes yn Llanandras deithio adref o Amwythig ychydig
yn hwyrach nag y gallant ar hyn o bryd, chwedl hwythau.
|
|
We realise that local passengers alone cannot justify expenditure
on this line. That is why I, the forum and the travellers association,
realise the importance of developing this line as a tourism opportunity.
The establishment of some form of tourist train service as a precursor
to part of an all-Wales initiative is vital.
|
Yr ydym yn sylweddoli na all teithwyr lleol yn unig gyfiawnhau
gwariant ar y rheilffordd hon. Dyna paham yr wyf i, y fforwm a chymdeithas
y teithwyr, yn sylweddoli pwysigrwydd datblygu'r rheilffordd hon
fel cyfle i dwristiaeth. Mae'n hanfodol sefydlu rhyw ffurf ar wasanaeth
trên i dwristiaid fel rhagflaenydd i fenter Cymru gyfan.
|
|
It could be done in many ways, but just imagine a train that can
go to Manchester or Birmingham and allow people from that part of
the world to get on and be greeted by well-trained service operators
on the line, an organic hamper of locally produced Welsh food, and
a trip into the heart of the Welsh countryside. It could be a flexible
service, allowing them to get on and off the train at different
intervals so that they can enjoy all of what Brecon and Radnorshire
and mid Wales has to offer.
|
Gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd, ond dychmygwch drên a
all fynd i Fanceinion neu Birmingham gan ganiatáu i bobl
o'r ardaloedd hynny fynd ar daith a chael eu croesawu gan weithredwyr
gwasanaeth wedi'u hyfforddi'n dda, hamper organig o fwyd Cymreig
wedi'i gynhyrchu'n lleol a thaith i galon cefn gwlad Cymru. Gallai
fod yn wasanaeth hyblyg a fyddai'n caniatáu iddynt fynd oddi
ar y trên mewn mannau gwahanol i fwynhau'r hyn sydd gan Frycheiniog
a Maesyfed a'r Canolbarth i'w gynnig.
|
|
We need to introduce better rolling stock. Two-car units would
be more reliable, would deal with peak loading problems, cycle access
and bulky luggage and would be easier to see out of than the frankly
awful class 153 units.
|
Mae angen inni gyflwyno cerbydau gwell. Byddai unedau dau gerbyd
yn fwy dibynadwy, byddent yn ymdrin â phroblemau llwytho yn
ystod y cyfnodau brig, byddai ganddynt le i feiciau a bagiau mawr
a byddai'n haws gweld allan ohonynt na'r unedau dosbarth 153 erchyll
hynny.
|
|
We need to work to achieve designation as a community railway and
derive savings and enhanced flexibility of product development,
marketing and operations from this. It would simply mean that it
would be cheaper for us to do things on that line, if we could get
that designation. We need to work with local authorities, tourism
organisations and local communities along the line to use it as
an environmentally sustainable, economic development driver for
the area it serves. Would the Minister be willing to meet representatives
of the Arcady foundation, an innovative project in Brecon and Radnorshire
that seeks to do just that?
|
Mae angen inni weithio i sicrhau y caiff ei dynodi fel rheilffordd
gymunedol gan sicrhau arbedion a hyblygrwydd gwell o ran datblygu
a marchnata'r cynnyrch, a'r gweithrediadau sy'n deillio o hyn. Yn
syml, byddai'n golygu y byddai'n haws inni wneud pethau ar y rheilffordd
honno pe gallem gael y dynodiad hwnnw. Mae angen inni weithio gydag
awdurdodau lleol, sefydliadau twristiaeth a chymunedau lleol ar
hyd y rheilffordd i'w defnyddio fel adnodd i ysgogi datblygiad amgylcheddol,
cynaliadwy ac economaidd ar gyfer yr ardal a wasanaetha. A fyddai'r
Gweinidog yn fodlon cyfarfod â chynrychiolwyr o sefydliad
Arcady, prosiect arloesol ym Mrycheiniog a Maesyfed sy'n ceisio
gwneud yr union beth hwnnw?
|
|
We need further financial support and help for the heart of Wales
line forum to help market the line and co-ordinate activities and
to carry on the good work that it has already been doing. An operating
base also needs to be established, I would argue, in Llandrindod
Wells in order to increase flexibility on the line for operations
and increase local employment. That would be easier to achieve if
the line were designated as a community railway. Finally, we need
to explore the possibility of using the line to carry more small
local freight and parcels, building upon the Lasswade fish experience,
and to carry timber using the freight multiple unit that has recently
been experimented with on the Cambrian line.
|
Mae angen cefnogaeth ariannol a chymorth pellach i fforwm rheilffordd
Calon Cymru er mwyn marchnata'r rheilffordd a chydlynu gweithgareddau
a pharhau â'r gwaith da y mae eisoes wedi'i wneud. Mae angen
sefydlu canolfan weithredu hefyd, byddwn yn dadlau, yn Llandrindod
er mwyn sicrhau hyblygrwydd cynyddol ar y rheilffordd ar gyfer gweithrediadau
ac i gynyddu cyflogaeth leol. Byddai hynny'n haws i'w gyflawni pe
câi'r rheilffordd ei dynodi fel rheilffordd gymunedol. Yn
olaf, mae angen inni archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio'r rheilffordd
i gludo mwy o nwyddau a pharseli bach lleol, gan ddatblygu profiad
pysgod Lasswade ac i gludo coed gan ddefnyddio'r uned gludo aml-bwrpas
yr arbrofwyd yn ddiweddar â hi ar reilffordd Cambria.
|
|
We are, without doubt, fortunate that the line through the heart
of Wales is still beating. It has survived Beeching and has endured
through the irresponsible shambles that the Tories made of privatising
the national network. This is a fantastic time for the railways
in Wales. It is a time of growth that even the most enthusiastic
doubted they would ever see: a new link to the airport is improving
the links between Wales's rail network and the world at large, and
the Ebbw Vale railway line, when it finally opens, will create a
mass of new opportunities. However, we should not be content to
see those as the end of the line.
|
Yr ydym, heb os, yn ffodus bod y rheilffordd drwy galon Cymru yn
parhau i guro. Goroesodd Beeching a daliodd ei thir drwy'r llanast
anghyfrifol a wnaeth y Torïaid wrth breifateiddio'r rhwydwaith
cenedlaethol. Mae hwn yn gyfnod gwych i'r rheilffyrdd yng Nghymru.
Mae'n gyfnod o dwf y bu i hyd yn oed y rhai mwyaf brwd amau y byddent
yn ei weld: mae cyswllt newydd â'r maes awyr yn gwella'r cysylltiadau
rhwng rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a'r byd y tu hwnt a bydd rheilffordd
Glynebwy, pan fydd yn agor o'r diwedd yn creu llu o gyfleoedd newydd.
Fodd bynnag, ni ddylem fodloni ar y rheini'n unig.
|
|
The heart of Wales line opens up attractions to tourists, allows
access for those wanting to attend Wales's central conference centre
at Llandrindod Wells, and for people who need to get from places
such as Ammanford into the centre of Swansea. This line has played
a central role in the past, and must be at the heart of our thinking
when we look at how we can further improve our rail network in the
future.
|
Mae rheilffordd Calon Cymru yn galluogi twristiaid i gyrraedd atyniadau,
yn caniatáu mynediad i'r rheini sydd am fynychu canolfan
gynadledda ganolog Cymru yn Llandrindod, ac i'r rheini sydd angen
mynd o leoedd megis Rhydaman i ganol Abertawe. Mae'r rheilffordd
hon wedi chwarae rôl ganolog yn y gorffennol, a dylai fod
wrth wraidd ein hystyriaethau wrth inni edrych ar sut y gallwn wella
ein rhwydwaith rheilffyrdd ymhellach yn y dyfodol.
|
|
Elin Jones: Diolch i Kirsty Williams am gyflwyno'r ddadl
bwysig hon. Cytunaf â hi yn llwyr pan ddywed fod potensial
mawr i gynyddu'r defnydd o drenau yng nghefn gwlad Cymru. Mae'r
buddsoddiad ar hyn o bryd mewn rheilffyrdd gwledig yn ddiffygiol
tu hwnt. Yn achos y rheilffordd rhwng Aberystwyth a'r Amwythig,
er enghraifft, nid oes digon o gerbydau ar y trenau, mae eu cyflwr
yn annioddefol o wael ac yr wyf wedi clywed am enghreifftiau di-ri
gan etholwyr-ac yr wyf wedi eu profi fy hun-o drenau sy'n colli
cysylltiadau pwysig yn yr Amwythig ac yn Birmingham. Yn ogystal,
mae angen buddsoddiad yn yr isadeiledd i sicrhau bod mannau pasio
ar y lein i ganiatáu gwasanaeth bob awr.
|
Elin Jones: I thank Kirsty Williams for presenting this
important debate. I agree wholeheartedly with her when she says
that there is great potential to increase the use of trains in rural
Wales. However, current investment in rural railways is deficient.
In the case of the railway between Aberystwyth and Shrewsbury, for
example, there are inadequate carriages on the trains, their condition
is insufferable, and I have heard boundless examples from constituents-and
I have also experienced it myself-of trains missing important connections
in Shrewsbury and Birmingham. In addition, investment in needed
in the infrastructure to secure passing places on the line to allow
hourly services.
|
|
The Deputy Presiding Officer: Order. This is about the line
through Llandrindod Wells.
|
Y Dirprwy Lywydd: Trefn. Mae hyn ynglyn â'r rheilffordd
drwy Landrindod.
|
|
Eleanor Burnham: As you all know, I am also passionate about
trains. I will restrict my comments to the Heart of Wales line,
which I know well, as I have also been to many Liberal Democrat
events on that railway. I am envious of the fact that Kirsty has
the Heart of Wales railway; my first debate was about reopening
the Barmouth to Ruabon line, which, for the same reasons as those
outlined by Kirsty, could have a fantastic input for tourism and
for resurrecting that area in the same way as the Heart of Wales
line. I recommend that the Minister allows us, eventually, to travel
all around Wales by railway. It is blue-sky thinking and an aspiration,
but Minister, please indulge us.
|
Eleanor Burnham: Fel y gwyddoch, yr wyf hefyd yn ymddiddori'n
fawr mewn trenau. Byddaf yn cyfyngu fy sylwadau i reilffordd Calon
Cymru, rheilffordd yr wyf yn ei hadnabod yn dda gan fy mod wedi
teithio i lawer o ddigwyddiadau'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y
rheilffordd honno. Yr wyf yn genfigennus fod gan Kirsty reilffordd
Calon Cymru; yr oedd fy nadl gyntaf ynglyn ag ail-agor rheilffordd
Abermaw i Riwabon, a allai gynnig llawer i dwristiaeth, am yr un
rhesymau â'r rheini a amlinellwyd gan Kirsty, ac am adfer
yr ardal yn yr un modd â rheilffordd Calon Cymru. Argymhellaf
fod y Gweinidog yn ein caniatáu, yn y pendraw, i deithio
drwy Gymru benbaladr gyda'r trên. Mae'n ddelfryd ac yn ddyhead,
ond Weinidog, porthwch ein mympwy.
|
|
The Deputy Presiding Officer: Order. I call Nick Bourne;
if you could stick to the line through Llandrindod Wells, I would
be grateful.
|
Y Dirprwy Lywydd: Trefn. Galwaf ar Nick Bourne; os gallwch
gadw at y rheilffordd drwy Landrindod, byddwn yn ddiolchgar.
|
|
Nick Bourne: I promise that I will. I thank Kirsty for putting
this on the agenda, and for allowing me a minute of her time. I
have used the line frequently, but never once to go to a Liberal
Democrat function-not yet, anyway. I use it to travel between surgeries.
I declare an interest as vice-president of the Heart of Wales Line
Travellers' Association; it does fantastic work, as do the volunteers
who work so hard along the line.
|
Nick Bourne: Addawaf y gwnaf hynny. Diolchaf i Kirsty am
roi hyn ar yr agenda, ac am ganiatáu munud o'i hamser i mi.
Yr wyf wedi defnyddio'r rheilffordd yn aml, ond erioed i fynychu
digwyddiad Democratiaid Rhyddfrydol--ddim eto, beth bynnag. Defnyddiaf
y rheilffordd i deithio rhwng cymorthfeydd. Datganaf ddiddordeb
fel is-lywydd Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru; mae'n
gwneud gwaith gwych, fel y gwna'r gwirfoddolwyr sy'n gweithio mor
galed ar hyd y rheilffordd.
|
|
One moment that many of us will remember is when the Queen, in
her jubilee year, alighted at Dolau station; so she has used the
Heart of Wales line. I hope the Minister has been listening to the
need for a fifth train. If we can give one message, that is the
truly important one, though I associate myself with everything that
Kirsty said. It is a fantastic line, and travels through terrific
countryside. Anyone who has not been on it should do so because
it really is a terrific line and provides a valuable service not
only for locals, but also for tourists. The points about cycles
was also well made. It is a gem. What good is Wales without its
heart? We sometimes concentrate too much on the north and the south,
and forget about the heart in the middle, and this is what this
debate is about. It is vital that we provide the necessary assistance
for this valuable service.
|
Un digwyddiad sy'n gofiadwy i lawer ohonom yw hwnnw yn ystod blwyddyn
jiwbilî'r Frenhines pan fu iddi ddod oddi ar y trên
yng ngorsaf Dolau; felly mae hithau wedi defnyddio rheilffordd Calon
Cymru. Gobeithiaf fod y Gweinidog wedi bod yn gwrando ar yr angen
am bumed trên. Os gallwn gyfleu un neges, sef yr un wirioneddol
bwysig, er yr wyf yn cytuno â phopeth a ddywedodd Kirsty.
Mae'n rheilffordd wych, ac mae'n teithio drwy gefn gwlad ryfeddol.
Dylai unrhyw un sydd heb fod arni wneud hynny oherwydd mae'n rheilffordd
ryfeddol sy'n darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl leol yn ogystal
â thwristiaid. Gwnaed y pwynt am feiciau yn dda iawn hefyd.
Mae'n drysor. Beth yw gwerth Cymru heb ei chalon? Ar brydiau yr
ydym yn canolbwyntio yn ormodol ar y gogledd a'r de ac yn anghofio
am y canol, a dyma fwriad y ddadl hon. Mae'n hanfodol ein bod yn
darparu'r cymorth angenrheidiol i'r gwasanaeth gwerthfawr hwn.
|
|
The Minister for Economic Development and Transport (Andrew
Davies): Like Nick Bourne, I declare an interest as I am also
a vice-president of the Heart of Wales Line Travellers' Association.
I also have a family interest, as my grandfather was an engine driver
on what was then the Great Western railway based at Llandeilo. That
is where my passion for railways comes from-as everyone is talking
about passion this afternoon.
|
Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth (Andrew
Davies): Fel Nick Bourne, datganaf ddiddordeb gan fy mod innau
hefyd yn is-lywydd Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru.
Mae gennyf ddiddordeb teuluol hefyd, gan y bu fy nhad-cu yn gyrru
injan ar yr hyn a oedd bryd hynny yn rheilffordd y Great Western
wedi'i leoli yn Llandeilo. Dyna darddiad fy angerdd am reilffyrdd--gan
fod pawb yn siarad am angerdd y prynhawn yma.
|
|
Sustaining and improving the railways of Wales is an integral part
of our policy and our agenda for improving public transport. As
we heard in questions earlier, there has been an increase in the
regularity of services, and improved local connections for services
in rural Wales. Our powers at the moment are restricted, but with
the transfer of functions following the Railways Act 2005, we will
have considerably enhanced powers in this area. This will be supported
by the Transport (Wales) Bill, when-and I am sure that that will
be shortly-it reaches the statute book in the new year. Together,
that will represent the largest transfer of powers to the Assembly
since this institution was established in 1999.
|
Mae cynnal a gwella'r rheilffyrdd yng Nghymru yn rhan annatod o'n
polisi a'n hagenda ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus. Fel y
clywsom yn y cwestiynau yn gynharach, bu cynnydd yn rheoleidd-dra'r
gwasanaethau, a chysylltiadau lleol gwell ar gyfer gwasanaethau
yng Nghymru wledig. Mae ein pwerau wedi'u cyfyngu ar hyn o bryd,
ond gyda throsglwyddiad swyddogaethau yn dilyn Deddf Rheilffyrdd
2005, bydd gennym fwy o bwerau o lawer yn y maes hwn. Cefnogir hyn
gan y Mesur Trafnidiaeth (Cymru), pan fydd--ac yr wyf yn sicr y
bydd hynny yn fuan--yn cyrraedd y llyfr statud yn y flwyddyn newydd.
Ynghyd bydd hynny'n cynrychioli'r trosglwyddiad mwyaf o bwerau i'r
Cynulliad ers ei sefydlu yn 1999.
|
|
Eleanor Burnham: Minister, can you clarify whether it will
be necessary for Network Rail to discuss matters of infrastructure
with the Assembly Government under the Act?
|
Eleanor Burnham: Weinidog, a allwch egluro p'un a fydd yn
angenrheidiol i Network Rail drafod materion seilwaith gyda Llywodraeth
y Cynulliad o dan y Ddeddf?
|
|
Andrew Davies: Although Network Rail will technically be
non-devolved, it has clearly indicated that it wants to work closely
with us in enhancing rail infrastructure. We will become co-signatories,
with the Department for Transport, to the Wales and borders franchise
under the powers of the Railways Act 2005 from April 2006.
|
Andrew Davies: Er yn dechnegol na fydd Network Rail wedi'i
ddatganoli, dangosodd yn glir eu bod am weithio'n agos â ni
i wella seilwaith y rheilffyrdd. Byddwn yn gyd-arwyddwyr, gyda'r
Adran Drafnidiaeth, i fasnachfraint Cymru a'r Gororau dan bwerau
Deddf Rheilffyrdd 2005 o fis Ebrill 2006.
|
|
As I said, we will have substantially increased powers in transport,
not least of which in rail. There has been substantial ongoing inward
investment in rail, particularly as I announced in my transport
review last December. Some of the achievements have already been
mentioned. There has been substantial investment in rail infrastructure
over and above what Network Rail has already committed to. We have
improved station facilities in many parts of Wales-in north, south
and mid Wales. We have developed interchanges, including on the
Heart of Wales line, and we have lengthened stations and added rolling
stock. The issue of safety, security and comfort was raised in questions
earlier, and we are grant-aiding Arriva Trains Wales to provide
on-train CCTV on all of its trains. This should be in place next
year. This will benefit the Heart of Wales line as well as other
routes throughout Wales.
|
Fel y dywedais, bydd gennym fwy o bwerau o lawer ym maes trafnidiaeth,
nid y lleiaf ohonynt fydd y rheilffyrdd. Bu mewnfuddsoddiad sylweddol
parhaus mewn rheilffyrdd, yn enwedig fel y cyhoeddais yn fy adolygiad
trafnidiaeth fis Rhagfyr y llynedd. Soniwyd am rai o'r llwyddiannau
eisoes. Bu buddsoddiad sylweddol yn y seilwaith rheilffyrdd ar ben
yr hyn mae Network Rail wedi ymrwymo iddo. Yr ydym wedi gwella adnoddau
gorsafoedd mewn llawer o rannau o Gymru--yn y gogledd, de a'r canolbarth.
Yr ydym wedi datblygu cyfnewidfeydd, gan gynnwys ar reilffordd Calon
Cymru, ac yr ydym wedi ymestyn gorsafoedd ac wedi ychwanegu cerbydau.
Codwyd y mater o ddiogelwch a chysur yn y cwestiynau ynghynt, ac
yr ydym yn rhoi cymorth grant i Drenau Arriva Cymru i ddarparu teledu
cylch cyfyng ar ei holl drenau. Dylai hyn fod ar waith y flwyddyn
nesaf. Bydd hyn o les i reilffordd Calon Cymru yn ogystal â
llwybrau eraill drwy Gymru.
|
|
As I am sure that you would expect, the main focus of investment
has been on the heavily used railways in the main conurbations.
As Kirsty said, largely, we are dealing with rolling stock inherited
from previous franchises and we have inherited previously established
leasing arrangements. However, we are working with Arriva Trains
Wales to look at what we can do to substantially improve rolling
stock, not just on the Heart of Wales line but in other parts of
Wales.
|
Fel yr wyf yn sicr y byddech yn disgwyl, bu'r prif ffocws buddsoddi
ar y rheilffyrdd a ddefnyddir llawer yn y prif gytrefi. Fel dywedodd
Kirsty, yr ydym yn ymdrin â'r cerbydau a etifeddwyd gan fasnachfreintiau
blaenorol yn bennaf, ac yr ydym wedi etifeddu trefniadau prydlesu
a sefydlwyd yn flaenorol. Fodd bynnag, yr ydym yn gweithio gyda
Threnau Arriva Cymru i edrych ar beth y gallwn ei wneud i wella
cerbydau yn sylweddol, nid ar reilffordd Calon Cymru yn unig ond
mewn rhannau eraill o Gymru.
|
|
I am sure that you will appreciate that the £50 million investment
that I announced earlier this year in additional rolling stock for
peak Valleys capacity, in the Cardiff-Valleys area, was needed in
response to the extremely high levels of overcrowding at peak times.
Having said that, in my frequent meetings with Arriva Trains Wales,
and most particularly since Graeme Bunker has taken over as managing
director, I have looked at precisely some of the suggestions that
Kirsty has made, and at what we can do to improve the rolling stock,
particularly aimed at the tourism industry. Arriva Trains has been
working closely with the Wales Tourist Board looking at ways in
which different rolling stock could be used to target the visitor
market and specialised activities, such as cycling holidays and
other activity-centred holidays, on the Heart of Wales line.
|
Yr wyf yn sicr y byddwch yn gwerthfawrogi'r angen am y buddsoddiad
£50 miliwn y cyhoeddais ynghynt eleni mewn cerbydau ychwanegol
ar gyfer capasiti'r Cymoedd yn ystod oriau brig yn ardal Caerdydd--Y
Cymoedd, i ymateb i'r lefelau uchel iawn o orlenwi yn ystod oriau
brig. Wedi dweud hynny, yn fy nghyfarfodydd cyson gyda Threnau Arriva
Cymru, ac yn enwedig ers i Graeme Bunker gymryd drosodd fel rheolwr
gyfarwyddwr, yr wyf wedi edrych yn fanwl ar rai o'r awgrymiadau
a wnaed gan Kirsty, ac ar beth y gallwn ei wneud i wella'r cerbydau,
yn enwedig o safbwynt y diwydiant twristiaeth. Mae Trenau Arriva
wedi bod yn cydweithio'n agos gyda Bwrdd Croeso Cymru i edrych ar
ffyrdd y gellir defnyddio gwahanol gerbydau i dargedu'r farchnad
ymwelwyr a digwyddiadau arbenigol, megis gwyliau beicio a gwyliau
gweithgaredd eraill ar reilffordd Calon Cymru.
|
|
Like many others in rural areas, this line is of vital importance
to people in the towns, villages and communities that it serves.
It is vital-as Kirsty said-in terms of travelling between the smaller
communities and the larger centres, particularly Swansea, Shrewsbury,
Llandrindod Wells and Llandeilo. I am delighted that the Assembly
Government, and I as a Minister, have been able to provide positive
support for the Heart of Wales line. I am delighted that we are
joined today by representatives of the Heart of Wales Line Travellers'
Association with whom we work closely.
|
Fel llawer mewn ardaloedd gwledig, mae'r rheilffordd hon o bwysigrwydd
hanfodol i bobl yn y trefi, y pentrefi a'r cymunedau a wasanaethir
ganddi. Mae'n hanfodol--fel dywedodd Kirsty--o ran teithio rhwng
y cymunedau llai a'r canolfannau mwy, yn enwedig Abertawe, Amwythig,
Llandrindod a Llandeilo. Yr wyf yn ymhyfrydu yn y ffaith y bu modd
i Lywodraeth y Cynulliad, a minnau fel Gweinidog, roi cefnogaeth
gadarnhaol i reilffordd Calon Cymru. Yr wyf yn ymhyfrydu yn y ffaith
bod cynrychiolwyr o Gymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru
sydd yn cydweithio'n agos gyda ni wedi ymuno â ni heddiw.
|
|
To date, this funding has largely been through the Welsh Assembly
Government's transport grant scheme which has been used, as I said
earlier, to improve interchange facilities at Ammanford and Llandovery
stations and also for the provision of information points at stations
all along the line. Travelling on the line with friends this summer,
on a Sunday visit to Llandrindod Wells, I was struck by the community
spirit and the way in which local communities served by the line
take a passionate interest in the stations. For those who have not
travelled on that line, I commend it to you. The pride that local
people take in those stations is highly commendable and should be
widely supported.
|
Hyd yma, mae'r arian wedi dod o gynllun grant trafnidiaeth Llywodraeth
Cynulliad Cymru yn bennaf, a ddefnyddiwyd, fel y soniais ynghynt,
i wella adnoddau cyfnewidfeydd yng ngorsafoedd Rhydaman a Llanymddyfri
a hefyd er mwyn darparu pwyntiau gwybodaeth yn y gorsafoedd ar hyd
y rheilffordd gyfan. Wrth deithio ar y rheilffordd gyda ffrindiau'r
haf yma, ar ymweliad ar ddydd Sul â Llandrindod, fe'm synnwyd
gan ysbryd y gymuned a'r ffordd y mae cymunedau lleol a wasanaethir
gan y rheilffordd yn cymryd diddordeb brwd yn y gorsafoedd. I'r
rheini ohonoch sydd heb deithio ar y rheilffordd, fe'i cymeradwyaf
i chi. Mae'r balchder mae pobl leol yn ei gymryd yn y gorsafoedd
hynny i'w gymeradwyo'n fawr a dylid ei gefnogi.
|
|
We are also providing grant aid to the Heart of Wales Line Forum
for the second winter service, on which Kirsty was kind enough to
congratulate us. I know that this is already proving popular, not
least due to the forum's promotion of the 'Rail and Sunday Roast'
trips. This is an excellent example of where imaginative and energetic
marketing can promote take-up. I am sure that the forum will continue
to build on its success.
|
Yr ydym hefyd yn rhoi cymorth grant i Fforwm Rheilffordd Calon
Cymru ar gyfer yr ail wasanaeth gaeaf, yr oedd Kirsty yn garedig
iawn i'n llongyfarch arno. Yr wyf yn gwybod bod hyn eisoes yn boblogaidd,
nid yn unig oherwydd hyrwyddiad y fforwm o deithiau 'Rheilffordd
a Rhost Sul'. Mae hyn yn enghraifft wych o'r modd y gall marchnata
creadigol a brwdfrydig hyrwyddo defnydd. Yr wyf yn sicr y bydd y
fforwm yn parhau i adeiladu ar ei lwyddiant.
|
|
Also promoted is the Heart of Wales railcard which offers at least
one-third off all individual standard class fares on the line to
local residents.
|
Hyrwyddwyd cerdyn rheilffordd Calon Cymru hefyd, sy'n cynnig o
leiaf un rhan o dair oddi ar bob pris dosbarth safonol unigol ar
y rheilffordd i drigolion lleol.
|
|
I recognise the hard work that the Heart of Wales Line Forum undertakes
in promoting the line. Assembly Government officials regularly attend
forum meetings, and are kept informed of developments and initiatives.
The forum works extremely hard to promote and develop the Heart
of Wales line, and has prepared a 20-point action plan, which aims
to increase patronage on the line.
|
Cydnabyddaf y gwaith caled mae Fforwm Rheilffordd Calon Cymru yn
ei wneud i hyrwyddo'r rheilffordd. Mae swyddogion Llywodraeth y
Cynulliad yn mynychu cyfarfodydd o'r fforwm yn gyson a chânt
y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau a mentrau. Mae'r fforwm
yn gweithio'n arbennig o galed i hyrwyddo a datblygu rheilffordd
Calon Cymru a pharatôdd gynllun gweithredu 20 pwynt ag iddo'r
nod o gynyddu'r cwsmeriaid ar y rheilffordd.
|
|
The station adoption scheme, run by the Association of Community
Rail Partnerships, has been successful along this route; the Dolau
station scheme, for example, is a showpiece of what such schemes
can achieve, and has won a Britain in Bloom award again this year.
The Heart of Wales line is listed as a potential community railway,
and I welcome the approach that the Heart of Wales Line Forum is
taking in building close, mutually beneficial links with the communities
served by the line. Across Britain, it is seen as one of the leading
lines in adopting this approach.
|
Bu'r cynllun mabwysiadu gorsaf, a gaiff ei redeg gan Gymdeithas
Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol yn llwyddiannus ar hyd y llwybr
hwn; mae cynllun gorsaf Dolau, er enghraifft, yn esiampl wych o'r
hyn y gall cynlluniau o'r math ei gyflawni, ac enillodd wobr Prydain
yn ei Blodau eto eleni. Rhestrir rheilffordd Calon Cymru fel rheilffordd
gymunedol posibl, a chroesawaf yr ymagwedd mae Fforwm Rheilffordd
Calon Cymru yn ei chymryd wrth feithrin cysylltiadau agos, cyd-fuddiol
gyda chymunedau a wasanaethir gan y rheilffordd. Ledled Prydain,
fe'i gwelir fel un o'r rheilffyrdd blaenllaw wrth fabwysiadu'r ymagwedd
hon.
|
|
To conclude, I thank Kirsty again for initiating this debate. It
is an important issue, particularly for communities in mid Wales.
The Welsh Assembly Government will continue to work in partnership
with Arriva Trains Wales, Network Rail and local interest groups,
such as the forum, to deliver improvements to the rail network,
aimed at benefiting town, city, but above all, countryside.
|
I orffen, diolchaf i Kirsty eto am ddechrau'r ddadl hon. Mae'n
fater pwysig, yn enwedig i gymunedau yn y Canolbarth. Bydd Llywodraeth
Cynulliad Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Threnau
Arriva Cymru, Network Rail a grwpiau lleol â diddordeb, megis
y fforwm, i gyflwyno gwelliannau i'r rhwydwaith rheilffyrdd ac sydd
wedi'u hanelu er budd trefi a dinasoedd, ond yn bennaf oll, cefn
gwlad.
|
|
The Deputy Presiding Officer: That brings today's proceedings
to a close.
|
Y Dirprwy Lywydd: Daw hynny â chyfarfod heddiw i ben.
|
|