Cynlluniwch eich siwrnai

Cynlluniwch eich taith

TOCYNNAU


Gellir prynu pob tocyn ar-lein, ar y trên ac o  Swyddfa docynnau Gorsaf Llandrindod, Cilgant yr Orsaf, Llandrindod, Powys, LD1 5BE. Ffôn: 01597 822053. Hefyd, Swyddfa Docynnau Gorsaf Llanelli (bore’n unig), Gorsaf Abertawe  a  Gorsaf Amwythig. Gellir danfon tocynnau symudol Trafnidiaeth Cymru yn sythi’ch ffôn Android neu Apple. Mae angen ichi lwytho ap Trafnidiaeth Cymru o'r App Store neu Google Play a dewis ‘m-ticket’ neu ‘mobileticket’ ar gyfer derbyn eich tocyn.

TOCYNNAU

Diweddariad Coronafeirws Ionawr 2022: Amserlen argyfwng a gwasanaeth bws cyfnewid rheilffyrdd ar gyfer rhai teithiau. Gwnewch eich gwaith cartref cyn teithio oherwydd mae’n bosibl i wasanaethau gael eu newid. Ar drenau neu yn orsafoedd, mae'n rhaid gwisgo gorchudd wyneb (oni bai eich bod wedi'ch eithrio).


Gellir prynu pob tocyn ar-lein, ar y trên ac o  Swyddfa docynnau Gorsaf Llandrindod, Cilgant yr Orsaf, Llandrindod, Powys, LD1 5BE. Ffôn: 01597 822053. Hefyd, Swyddfa Docynnau Gorsaf Llanelli (bore’n unig), Gorsaf Abertawe  a  Gorsaf Amwythig. Gellir danfon tocynnau symudol Trafnidiaeth Cymru yn sythi’ch ffôn Android neu Apple. Mae angen ichi lwytho ap Trafnidiaeth Cymru o'r App Store neu Google Play a dewis ‘m-ticket’ neu ‘mobileticket’ ar gyfer derbyn eich tocyn.

AMSERLENNI
Ar gyfer amseroedd trenau cliciwch ar un o’r botymau isod...

AMSERLENNI


Ar gyfer amseroedd trenau cliciwch ar un o’r botymau isod.

AMSERLENNI
Ar gyfer amseroedd trenau cliciwch ar un o’r botymau isod...
CYNIGION ARBENNIG A CHARDIAU RHEILFFORDD
CERDYN RHEILFFORDD CALON CYMRU

Mae’r cerdyn rheilffordd yn ddilys ar gyfer siwrneiau ar wasanaethau Calon Cymru rhwng Abertawe, Llanelli a’r Amwythig trwy Landrindod.

Mae ar gael i breswylwyr oed 16 a throsodd mewn codau post penodol ar hyd llwybr Lein Calon Cymru. Cost y cerdyn rheilffordd yw £10.00 ac mae’n ddilys am flwyddyn. Mae gan ddeiliad y cerdyn hawl i ostyngiad o 34% ar deithiau rheilffordd leol. Gall hyd at ddau blentyn deithio gyda deiliad y gerdyn am gost o £2.00 y plentyn. Does dim isafswm pris.

Gellir prynu cardiau rheilffordd o'r swyddfeydd tocynnau yn Abertawe, Llanelli ac Amwythig. 

TOCYNNAI CRWYDRO UNDYDD A DEUDDYDD LEIN CALON CYMRU

Mae Tocyn Dydd Crwydro Cylchol Calon Cymru’n cynnig taith gylchol un dydd gyda theithiau diderfyn i naill gyfeiriad neu llall Lein Calon Cymru.

Mae Tocyn Crwydro Cylchol Deuddydd Calon Cymru’n cynnig taith ddeuddydd gyda theithio diderfyn i’r naill gyfeiriad neu’r llall. Gellir prynu’r tocynnau hyn o unrhyw swyddfa docynnau gorsaf rheilffordd neu ar y trên. Mae’r tocynnau Crwydro deuddydd yn arbennig o addas i gerddwyr, gan ddefnyddio Lein Calon Cymru i gyrchu adrannau gwahanol y daith ond nid yw’r gyfyngedig i gerddwyr yn unig.

CONSESIYNAU AR LEIN CALON CYMRU

Mae’r cynllun ar gael i bob deiliad Tocyn Mantais Bws a gyhoeddwyd gan unrhyw Awdurdod Lleol yng Nghymru. Ceir manylion y Tocyn Mantais ar: https://trctrenau.cymru/cy/tocynnau-teithio-rhatach

CLICIWCH YMA Cadarnhau Amseroedd Trenau

a Phrynu Tocynnau

CLICIWCH YMA Cadarnhau Amseroedd Trenau a Phrynu Tocynnau

CLICIWCH YMA Cadarnhau Amseroedd Trenau a Phrynu Tocynnau

CYNIGION ARBENNIG A CHARDIAU RHEILFFORDD
CERDYN RHEILFFORDD CALON CYMRU
Mae’r cerdyn rheilffordd yn ddilys ar gyfer teithiau ar wasanaethau Calon Cymru rhwng Abertawe, Llanelli a’r Amwythig trwy Landrindod.

Mae ar gael i breswylwyr oed 16 a throsodd mewn codau post penodol ar hyd llwybr Lein Calon Cymru. Cost y cerdyn rheilffordd yw £10.00 ac mae’n ddilys am flwyddyn. Mae gan ddeiliad y cerdyn hawl i ostyngiad o 34% ar deithiau rheilffordd leol. Gall hyd at ddau blentyn deithio gyda deiliad y gerdyn am gost o £2.00 y plentyn. Does dim isafswm pris.

Gellir prynu cardiau rheilffordd o'r swyddfeydd tocynnau yn Abertawe, Llanelli ac Amwythig. 

TOCYNNAU CRWYDRO UNDYDD A DEUDDYDD LEIN CALON CYMRU
Mae Tocyn Dydd Crwydro Cylchol Calon Cymru’n cynnig taith gylchol un dydd gyda theithiau diderfyn i naill gyfeiriad neu'r llall ar Lein Calon Cymru.

Mae Tocyn Crwydro Cylchol Deuddydd Calon Cymru’n cynnig taith ddeuddydd gyda theithio diderfyn i’r naill gyfeiriad neu’r llall. Gellir prynu’r tocynnau hyn o unrhyw swyddfa docynnau gorsaf rheilffordd neu ar y trên. Mae’r tocynnau Crwydro deuddydd yn arbennig o addas i gerddwyr, gan ddefnyddio Lein Calon Cymru i gyrchu adrannau gwahanol y daith ond nid yw’n gyfyngedig i gerddwyr yn unig.

CONSESIYNAU AR LEIN CALON CYMRU
Gall pawb sy'n berchen ar gerdyn teithio yng Nghymru deithio'n rhad ac am ddim rhwng Hydref 1af a Mawrth 31ain ar hyd Lein Calon Cymru rhwng Abertawe a'r Amwythig. Mae’r cynllun ar gael i bob deiliad Cerdyn Teithio Mantais a gyhoeddwyd gan unrhyw Awdurdod Lleol yng Nghymru. Ceir manylion y Cerdyn Teithio yn: https://trctrenau.cymru/cy/tocynnau-teithio-rhatach

Gofelir am orsafoedd ar hyd Lein Calon Cymru gan fabwysiadwyr gorsafoedd lleol sy'n plannu a gofalu am erddi a blychau plannu gorsafoedd ar y platfformau. Mae goleuadau ymhob gorsaf waeth pa mor fach bynnag ydynt, ac mae llawer yn cynnig parcio am ddim.

AWGRYMIADAU TEITHIO

Ceir gwybodaeth trên amser go iawn ar blatfformau gorsafoedd ar hyd Lein Calon Cymru ar fyrddau gwybodaeth electronig a gysylltir i’r ganolfan reoli.

Caniateir cŵn ar y trenau cyn belled eu bod dan reolaeth lwyr ac mae gan bob trên rywfaint o le i feiciau.

Os oes gennych ymholiad amser go iawn, y ffordd gyflymaf o gysylltu â Thrafnidiaeth Cymru yw trwy ffonio 03333 211 202. Mae'r llinell ar agor rhwng 0800 a 2000 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 1100 a 2000 ar ddydd Sul. Os yw'n well gennych siarad gyda ni yn Gymraeg dewiswch opsiwn 1. Codir cost cyfraddau lleol ar alwadau i'n rhif o ffonau BT.

Gallwch anfon e-bost at Trafnidiaeth Cymru yn: customer.relations@trctrenau.cymru neu ar
Twitter @TfWrail

! Pobl, anifeiliaid neu wrthrychau ar y trac neu'n agos ato?
! Difrod neu wall ar groesfan?
! Mae cerbyd wedi taro pont?
Mae gan Network Rail linell gymorth genedlaethol ar 03457 11 41 41
Mae ar agor 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn. Codir y gyfradd arferol am alwadau.
-
Er mwyn rhoi gwybod am drosedd cysylltwch â'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: 
Ffoniwch: 0800 40 50 40, 999 neu Testun: 61016

AWGRYMIADAU TEITHIO

Ceir gwybodaeth trên amser go iawn ar blatfformau gorsafoedd ar hyd Lein Calon Cymru ar fyrddau gwybodaeth electronig a gysylltir i’r ganolfan reoli.

Caniateir cŵn ar y trenau cyn belled eu bod dan reolaeth lwyr ac mae gan bob trên rhywfaint o le i feiciau.

Os oes gennych chi gwestiynau neu bryderon, byddem yn hapus iawn i’ch helpu. Gallwch gysylltu â ni ar y ffôn, drwy e-bost, twitter neu drwy ddefnyddio'r ffurflen isod. Gallwch ein ffonio ni ar 0333 3211 202. Rydyn ni'n agored rhwng 0800 a 2000 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 1100 a 2000 ar ddydd Sul. 

Os yw'n well gennych chi siarad gyda ni yn Gymraeg, ffoniwch 0333 3211 202 a dewiswch opsiwn 1. Codir cost cyfraddau lleol ar alwadau i'n rhif o ffonau BT.

Gallwch anfon e-bost atom: customer.relations@trctrenau.cymru
Twitter @TfWrail

GWELLIANNAU’R DYFODOL

Mae’n bleser gennym ddweud bod y gwasanaeth cyfredol ar hyd Lein Calon Cymru’n cael ei wella dan fasnachfraint newydd Cymru a’r Gororau.

Dyddiau Gwaith – erbyn 2023 bydd 5 trên yn rhedeg ar hyd y lein yn y ddau gyfeiriad, yn ogystal â thaith fer rhwng Llandrindod a’r Amwythig, a thaith fer rhwng Llanymddyfri ac Abertawe.

Dydd Sadwrn – erbyn 2023 bydd 5 trên yn rhedeg ar hyd y lein yn y ddau gyfeiriad, yn ogystal â thaith fer rhwng Llandrindod a’r Amwythig, a thaith fer rhwng Llanymddyfri ac Abertawe.

Dydd Sul – erbyn 2023 bydd 2 drên y dydd yn rhedeg ar hyd y lein yn y ddau gyfeiriad, yn ogystal â thaith fer rhwng Llandrindod a’r Amwythig, a thaith fer rhwng Llanymddyfri ac Abertawe.

Trên Gyda'r Nos - erbyn 2023 bydd trên gyda'r nos yn rhedeg o Gaerdydd i Lanymddyfri ac o Crewe i Landrindod gan gynnwys ar ddydd Sul.

Ynglŷn â gwasanaethau’r dyfodol, ymhob achos mae hyd y lein yn golygu rhwng Abertawe a’r Amwythig. Bydd rhai teithiau byr ychwanegol sy'n golygu teithiau ar hyd Lein Calon Cymru o'r Gogledd mor bell â Llandrindod ac o'r De mor bell â Llanymddyfri. Bydd rhai teithiau byr yn rhedeg i Crewe ac un arall i Gaerdydd.

Hefyd bydd  llawer mwy o seddi ar drenau newydd eu hadnewyddu o 2022. Cewch wybod am y datblygiadau wrth iddyn nhw ddigwydd.

GWELLIANNAU’R DYFODOL

Mae’n bleser gennym ddweud bod y gwasanaeth cyfredol ar hyd Lein Calon Cymru’n cael ei wella dan fasnachfraint newydd Cymru a’r Gororau.

Dyddiau Gwaith – erbyn 2023 bydd 5 trên yn rhedeg ar hyd y lein yn y ddau gyfeiriad, yn ogystal â thaith fer rhwng Llandrindod a’r Amwythig, a thaith fer rhwng Llanymddyfri ac Abertawe.

Dydd Sadwrn – erbyn 2023 bydd 5 trên yn rhedeg ar hyd y lein yn y ddau gyfeiriad, yn ogystal â thaith fer rhwng Llandrindod a’r Amwythig, a thaith fer rhwng Llanymddyfri ac Abertawe.

Dydd Sul – erbyn 2023 bydd 2 drên y dydd yn rhedeg ar hyd y lein yn y ddau gyfeiriad, yn ogystal â thaith fer rhwng Llandrindod a’r Amwythig, a thaith fer rhwng Llanymddyfri ac Abertawe.

Ynglŷn â gwasanaethau’r dyfodol, ymhob achos mae hyd y lein yn golygu rhwng Abertawe a’r Amwythig. Bydd rhai teithiau byr yn ymestyn i Crewe ac un arall i Gaerdydd.

Hefyd bydd cynhwysedd eistedd llawer gwell mewn trenau newydd eu hadnewyddu o 2022. Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am y cynnydd.
Share by: