Llwybr Lein Calon Cymru

Llwybr Lein Calon Cymru

Taith gerdded pellter hir yw Llwybr Lein Calon Cymru sy’n gwau rhwng gorsafoedd ar hyd y lein. Agorodd ar draws Swydd Amwythig, Powys, Sir Gaerfyrddin, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Dinas & Sir Abertawe yn y Gwanwyn 2019. Mae'n bwysig nodi nad yw'r Llwybr yn mynd i bob gorsaf ar y lein, ond gellir cyrraedd rhai nad yw'n mynd trwyddynt yn uniongyrchol trwy lwybrau "cyswllt gorsaf".

Mae offerynnau gwahanol i'ch helpu i gerdded y llwybr. 


  • Ceir arweinlyfr cynhwysfawr yn cynnig disgrifiadau manwl am dirwedd a diwylliant De Swydd Amwythig a Chanolbarth Cymru. Mae pob adran yn cynnwys map bras a manylion am 'gysylltiadau gorsafoedd' ychwanegol os ydych eisiau mynd i'r gorsafoedd hynny nad yw'r llwybr yn mynd trwyddynt. Er mwyn prynu'r llyfr gwasgwch ar y ddolen i Kittiwake Books isod neu ewch i'ch llyfrwerthwr annibynnol lleol.
  • Caiff y llwybr ei farcio gan gylchigau, bys byst ac arwyddion ag arnynt logo amlwg. Mae tîm o wirfoddolwyr yn helpu gofalu am y rhain, ond weithiau maen nhw'n diflannu ac o'r herwydd mae'n well peidio bod yn gwbl ddibynnol arnynt er mwyn gweithio'ch ffordd drwy'r llwybr. Mae gan gysylltiadau gorsafoedd eu harwyddion arbennig eu hunain. 
  • Gallwch wasgu'r botymau isod er mwyn lawr lwytho disgrifiadau ysgrifenedig o'r llwybrau. 
  • Gallwch wasgu'r botwm isod er mwyn lawr lwytho'r ffeil GPX ar eich ap symudol GPS er mwyn gweld y llwybrau o orsaf i orsaf. D.S. Os ydych eisiau defnyddio mapiau GPX ar gyfer y llwybr pellter hir heb gysylltiadau â gorsafoedd mae'n well ichi ddefnyddio'r cyfarwyddiadau ysgrifenedig neu'r llyfr hefyd. 


Y gobaith yw y bydd y llwybr hefyd ar gael ar OS Maps cyn bo hir. Gwyliwch y gofod. 


Mae'r Llwybr yn creu cyswllt pwysig rhwng nifer o lwybrau pellter hir sy'n bodoli'n barod:


  • Yn Craven Arms – Llwybr Swydd Amwythig
  • Yn Nhrefyclo/ Llangynllo – Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Glyndwr
  • Yn Y Bontnewydd ar Wy/Llanfair ym Muallt – Llwybr Dyffryn Gwy
  • Yn ardal Llanymddyfri – Llwybr Cambrian
  • Ym Methlehem (ger Llandeilo) – Llwybr y Bannau
  • Ym Mhontarddulais – Llwybr Sant Illtyd
  • Yng Nghasllwchwr (ger Llanelli) – Llwybr Arfordirol Cymru


MAPIAU A LLWYBRAU CERDDED RHEILFFORDD CALON CYMRU
MAE’R LLYFR YMA!

Os ydych yn awyddus i gerdded llwybrau ar hyd Rheilffordd Calon Cymru eleni, mae llyfr y llwybrau, a ysgrifennwyd gan Les Lumsdon, ar gael i’w brynu nawr ar wefan llyfrau Kittiwake. Mae’n cynnwys mapiau a disgrifiadau o’r llwybrau.

PRYNU TG YMA!

STORI LLWYBR LEIN CALON CYMRU

Lein Calon Cymru yw un o’r llwybrau rheilffordd harddaf ym Mhrydain. Mae cerddwyr wedi defnyddio’r lein ers sawl blwyddyn er mwyn cyrraedd llwybrau cerdded bendigedig sy’n aml yn anodd eu cyrraedd heb gar.


Yn 2015, roedd dyrnaid o gerddwyr a rhai oedd yn frwdfrydig am y rheilffordd wedi cyfarfod mewn tafarn i drafod adeiladu llwybr cerdded ar sail y rheilffordd o Craven Arms i Lanelli, gan wau rhwng gorsafoedd ar hyd Lein Calon Cymru.


Gofynnon ni i ddau arbenigwr lleol, yr Athro Les Lumsdon ac Alison Caffyn gynnal astudiaeth dichonoldeb ar gyfer y Llwybr. Cyllidwyd y gwaith gan Drenau Arriva Cymru.


Allwch chi ddim cynllunio llwybr cerdded pellter hir 141 milltir yng nghysur eich swyddfa’n unig – rhaid i chi fynd yno a cherdded. Rhaid i chi fynd allan ymhob tywydd, cyfarfod y ffermwyr, gweithio gyda’r hyn sydd yno. Os nad oes llwybr ar draws nant, y cwestiwn yw – ddylen ni ddarganfod llwybr arall neu adeiladu pont newydd? Os dargyfeiriwyd llwybr y credoch ei fod yn bodoli, rhaid ailystyried.


Rydym wedi seilio’r llwybr ar hawliau tramwy cyfredol, gan ddechrau yn hen dref reilffordd Craven Arms. Mae’r llwybr yn mynd trwy ardaloedd anghysbell yr ucheldir gan gynnwys AHNE Swydd Amwythig, Coedwig Sir Faesyfed a Bannau Brycheiniog, coetir gogoneddus a morfeydd heli Dyffryn Llwchwr ar y ffordd i Barc Arfordir y Mileniwm yn Llanelli. Bydd yn addas i bobl sy’n chwilio am her pellter hir, ond bydd yr un mor addas ar gyfer y rheiny sydd am gerdded y llwybr mewn darnau, gan ddefnyddio’r trên i fynd i gerdded am y dydd neu dros y penwythnos a defnyddio siopau, caffis, tafarndai lleol a llety dros nos ar hyd y ffordd.


Ym mis Ionawr 2017 lansiodd grŵp llywio’r llwybr apêl cyllid y dorf i godi arian i helpu adeiladu’r llwybr. Roeddem wrth ein bodd gyda chefnogaeth cymunedau ar hyd y lein, gan gynnwys grwpiau cerdded a thimoedd Hawl Tramwy’r cyngor. Wedi lansio cyllid y dorf buom ar y teledu a’r radio – y tro cyntaf i’r rhan fwyaf ohonom, gan roi cyfweliadau yn y Gymraeg a’r Saesneg a chael sylw gwirioneddol dda yn y wasg leol hefyd. Dyma’r gefnogaeth oedd ei hangen arnom.


Hyd y llwybr gorffenedig yw 227km (141 milltir) a gallai gymryd 10 diwrnod i gerddwr ei orffen. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau cerdded ar ei hyd.


PARTNERIAID

Rhyngom rydym wedi creu llwybr cerdded unigryw yn dilyn rheilffordd sy'n gwau ei ffordd rhwng gorsafoedd rheilffordd ar hyd prydferthwch Lein Calon Cymru. DIOLCH YN FAWR  i'r holl bobl a mudiadau a'n cefnogodd ni

Trenau Arriva Cymru

Network Rail

Trafnidiaeth Cymru

ACoRP

Cymdeithas Teithwyr Lein Calon Cymru

Ramblers Holidays Charitable Trust

The Long Distance Walkers Association

Rail Ramblers

Lower Wye Valley Ramblers

Croeso i Gerddwyr (Llanymddyfri)

Cerddwyr Llanbedr Pont Steffan a Llanelli

REPTA

Timau Hawliau Tramwy yn Swydd Amwythig, Powys, Sir Gaerfyrddin a Dinas a Sir Abertawe

… a'r holl grwpiau, cynghorau lleol, unigolion a theuluoedd sydd wedi cyfrannu i helpu ariannu'r llwybr.


NEWYDDION AM Y LLWYBR


YR ECONOMI LEOL. Darllenwch ein Hadroddiad o'r prosiect peilot yn Llanymddyfri yn cysylltu'r rheilffordd, llwybrau a chyflenwyr lleol.


RHEILFFORDD A LLWYBR. Cyfeiriwyd ato yn Best Travel Discoveries of 2018 The Guardian yma


Darllenwch blog cerdded Kevin Downes yma, a ysgrifennwyd yn yr Haf 2019. Ei farn ef yn unig a fynegir!


Enillodd y Llwybr Wobr ACoRP ar gyfer Twristiaeth a Threftadaeth 2019 ym mis Hydref 2019. Mwy o fanylion yma


Os hoffech ysgrifennu blog am gerdded y Llwybr Trail, byddem yn falch iawn o roi sylw iddo trwy Facebook a rhoi dolen ar ein gwefan felly cysylltwch â ni os ydych yn cynllunio taith. Rydym yn rhoi Crys-T Calon Cymru rhad ac am ddim i bawb sy'n blogio am y llwybr, (ar yr amod fod rhai ar gael)


CEFNOGAETH


Mae'r Llwybr angen goruchwyliaeth reolaidd gan 'Gyfeillion y Llwybr', gwaith atgyweirio rheolaidd ynghyd â llawer mwy o welliannau fel gwell arwyddion i helpu cadw'r llwybr yn berthnasol a defnyddiol yn y dyfodol. 


Os hoffech wneud cyfraniad i gefnogi'r gwaith hwn, gwnewch eich siec (ni allwn dderbyn trosglwyddiad banc) yn daladwy i HoWLTA a'i danfon at: PO Box 778, Abertawe, SA4 5BL

Ysgrifennwch “Llwybr” ar gefn eich siec a rhowch eich cyfeiriad cartref (a'ch cyfeiriad ebost os yn bosib)

Rydym hefyd yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw un sy'n awyddus i gynnig eu gwasanaeth i helpu'r tîm bach o wirfoddolwyr sy'n aelodau o Grwp Llywio'r Llwybr – cysylltwch â ni drwy'r Blwch Post, neu trwy flwch cyswllt y wefan os ydych yn credu y gallech helpu yn y ffordd yma.

MAPIAU A LLWYBRAU CERDDED RHEILFFORDD CALON CYMRU
MAE’R LLYFR YMA!

Os ydych yn awyddus i gerdded llwybrau ar hyd Rheilffordd Calon Cymru eleni, mae llyfr y llwybrau, a ysgrifennwyd gan Les Lumsdon, ar gael i’w brynu nawr ar wefan llyfrau Kittiwake. Mae’n cynnwys mapiau a disgrifiadau o’r llwybrau.
PRYNU TG YMA!
Credydau Ffotograffiaeth. Geraint Morgan, Stephen Miles, Lottie O'Leary, Rob Christie, Les Lumsdon, Ann Maudsley a Visit Wales.
Share by: