Lein Calon Cymru
Rheilffordd wledig ysblennydd 121 milltir o hyd yw Lein Calon Cymru, rhwng Abertawe ac Amwythig, trwy ucheldiroedd gwledig Sir Gaerfyrddin, Powys a Swydd Amwythig. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu'r gwasanaeth trên saith diwrnod yr wythnos.
Mae pobl ar drip undydd a cherddwyr yn hoff iawn o’r lein, ac mae hefyd yn darparu cyswllt trafnidiaeth hanfodol ar gyfer cymunedau a threfi gwledig bywiog ledled Canolbarth Cymru a'r Gororau. Mae Lein Calon Cymru yn cysylltu â phrif lwybrau a llwybrau trefol ar draws Rhwydwaith y DU trwy Crewe, Amwythig, Craven Arms, Llanelli, Abertawe a Chaerdydd.
Lein Calon Cymru
Mae Llwybr Lein Calon Cymru yn llwybr unigryw, pellter hir, 141 milltir o hyd sy'n dirwyn ei ffordd rhwng gorsafoedd o Craven Arms yn Swydd Amwythig i Lanelli yn Ne Cymru, gan alluogi cerddwyr i ddefnyddio'r trên i ddechrau eu taith gerdded neu ddychwelyd i'r man cychwyn ar y diwedd.
Ers Gwanwyn 2019, mae cannoedd o gerddwyr wedi archwilio'r llwybr hwn sy'n canolbwyntio ar brofiad araf, golygfaol i’r teithiwr, a dod â budd economaidd i fusnesau a chymunedau ar hyd y lein.