Pasbort Llwybr Lein Calon Cymru

Mae Pasbort Llwybr Lein Calon Cymru yn gofnod o’ch taith a gallwch ei ddefnyddio p’un a ydych chi’n cerdded y llwybr cyfan neu rannau ohono dros amser. ‘Cyfeillion Llwybr Lein Calon Cymru’ sydd wedi datblygu’r cynllun pasbort a nhw sy’n ei reoli ac mae’r holl elw yn mynd tuag at gynnal y llwybr.

 

Datblygodd y Cyfeillion y pasbort er mwyn gwella’r profiad o gerdded ar hyd y llwybr gwych hwn tra’n cefnogi busnesau bach ar hyd y daith. Maent hefyd am annog mwy o gerddwyr i roi cynnig ar y llwybr pellter hir hwn, a gafodd ei ysbrydoli gan y rheilffordd a’r holl amrywiaeth mae’n ei gynnig.

PRYNWCH EICH PASSBORT LLWYBR YMA

Casglu Stampiau


Ar hyn o bryd gallwch stampio eich pasbort mewn 16 o drefi a phentrefi ar hyd y llwybr. Mae pob ‘Man Stampio’ mewn busnesau lleol sydd wedi cytuno i gefnogi’r gynllun. Mae’r holl leoliadau wedi’u dangos ar y map isod. Cliciwch ar ddolen pob lleoliad i weld yr oriau agor.


Mae o leiaf dau Fan Stampio mewn 10 PRIF leoliad, felly gobeithio y byddwch yn gallu casglu stampiau ni waeth faint o’r gloch y byddwch yn cyrraedd.


Mae 6 Lleoliad YCHWANEGOL (bonws) hefyd, ond un Man Stampio sydd yn y rhan fwyaf o’r rhain, felly efallai na fyddwch yn gallu casglu stampiau os byddwch yn cyrraedd y tu allan i’r oriau agor.


Prif bwrpas y pasbort yw gwella eich antur wrth gerdded ar hyd y llwybr, yn hytrach na chasglu POB stamp o reidrwydd.


Fodd bynnag, os byddwch yn casglu 10 neu ragor o stampiau gallwch ymgeisio am anrheg a thystysgrif y llwybr am ddim. Anfonwch neges e-bost at heartwalestrail@gmail.com gan roi eich enw fel yr hoffech iddo ymddangos ar eich tystysgrif, llun o’ch pasbort a’ch cyfeiriad.


Mannau Stampio

STOPAU STAMPIO YCHWANEGOL WEDI'U MARCIO Â #

All Locations
LIST MAP


Cwestiynau Cyffredin


  • Beth os yw’r Mannau Stampio ar gau?

    Yn y 10 PRIF LEOLIAD dylai fod o leiaf dau Fan Stampio felly mae’n bosibl bod un arall ar agor. 


    Yn y 6 LLEOLIAD YCHWANEGOL, sef y pentrefi llai, mae’n fwy tebygol y bydd y Mannau Stampio ar agor ar amseroedd penodol yn unig, felly mae llai o siawns y bydd un ar agor. 


    Os na fyddwch yn llwyddo i gael stamp, peidiwch â phoeni. Dim ond cyfanswm o 10 stamp mae’n rhaid i chi eu casglu i hawlio eich anrheg am ddim a’ch tystysgrif. 

    Os yw Man Stampio ar gau yn ystod yr oriau agor sy’n cael eu hysbysebu, rhowch wybod i ni fel y gallwn ofyn iddynt ddiweddaru eu gwybodaeth.


  • Pam nad oes Mannau Stampio ym mhob tref neu bentref ar hyd y llwybr?

    Does dim lle addas ar gyfer Man Stampio ym mhob lleoliad, mae llawer o bentrefi mor fach ac anghysbell does dim hyd yn oed siop yno.

     

    Os oes gennych awgrymiadau ar gyfer Mannau Stampio ychwanegol, rhowch wybod i ni. 


  • A yw’r pasbort yn dod i ben ar ddyddiad penodol?

    Nac ydy. Gallwch gadw eich pasbort am flynyddoedd a chasglu stampiau ar eich cyflymder eich hun. 

  • Ble gallaf brynu pasbort?

    Mae’r pasbort ar werth ar y wefan yn unig ar hyn o bryd. Dilynwch y ddolen ar y dudalen hon i brynu un. Yn y dyfodol byddwn yn ystyried eu gwerthu mewn lleoliadau penodol. Os yw’n well gennych dalu drwy siec, anfonwch e-bost i heartwalestrail@gmail.com

  • Beth yw’r anrheg am ddim?

    Ar hyn o bryd yr anrheg am ddim yw clwt brethyn y llwybr y gallwch ei wnïo ar ddilledyn/eitem arall. Mae’n bosibl y bydd yr anrheg am ddim yn wahanol yn y dyfodol. 

  • Sut mae hawlio’r anrheg am ddim a’r dystysgrif?

    Os ydych chi wedi casglu 10 stamp neu ragor ar eich pasbort ac rydych yn dymuno hawlio anrheg am ddim a thystysgrif, tynnwch lun o’ch pasbort a’i anfon i’r cyfeiriad e-bost heartwalestrail@gmail.com gan roi eich enw a’ch cyfeiriad. 

  • Sut gallaf gael pasbort os ydw i’n byw y tu allan i’r DU?

    Os ydych chi’n byw y tu allan i’r DU ac rydych yn dymuno archebu pasbort, anfonwch e-bost i heartwalestrail@gmail.com gan roi eich enw a’ch cyfeiriad a gallwn gyfrifo’r gost ar gyfer ei bostio ac anfon dolen taliad atoch. 

DIOLCH I'N NODDWYR A'N CEFNOGWYR