Llwybr Lein Calon Cymru yn lansio Cynllun Pasbort Newydd

Mae Llwybr Cyfeillion Lein Calon Cymru wedi lansio pasbort newydd gyda’r nod o wella’r profiad o gerdded ar hyd y Llwyr pellter hir a ysbrydolwyd gan y rheilffordd, tra’n cefnogi busnesau bach lleol ar hyd y ffordd.
Dadorchuddiwyd ‘Pasbort y Llwybr’ ar stondin Trafnidiaeth Cymru yn ystod Sioe Frenhinol Cymru ac mae bellach ar gael i gerddwyr sydd am ddarganfod y llwybr 141 milltir o hyd, sy’n dilyn Lein Calon Cymru o Craven Arms i Lanelli.
Mae’r pasbort wedi cael ei ddatblygu a’i reoli gan Gyfeillion Llwybr Lein Calon Cymru, gyda chefnogaeth y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru a Trafnidiaeth Cymru. Bydd yr holl elw o Basport y Llwybr yn ariannu’r gwaith parhaus o gynnal a datblygu’r llwybr.
Gall cerddwyr ddewis defnyddio’r pasbort wrth gerdded y llwybr cyfan fel un taith neu yn ystod sawl ymweliad. Bydd cyfle i gasglu stampiau o’r busnesau sy’n cymryd rhan ac sydd wedi’u dynodi yn Arosfannau Stampio swyddogol gan annog pobl i ymweld â chymunedau gwledig ar hyd y daith. Ar ôl casglu deg neu ragor o stampiau, gall cerddwyr wneud cais am anrheg am ddim a thystysgrif y llwybr i gofio am eu taith ar hyd y llwybr.
Dywedodd Lisa Denison, Cadeirydd Cyfeillion Llwybr Lein Calon Cymru: “Mae Cyfeillion y Llwybr yn edrych ymlaen yn fawr i lansio pasbort y llwybr ac maen nhw’n ddiolchgar i’n hariannwyr a’n partneriaid sydd wedi helpu i wireddu’r cyfan.
Yn ogystal â bod o fudd i gerddwyr a busnesau lleol, mae’n rhoi incwm cynaliadwy i’r elusen, a fydd yn ei dro yn ein helpu i gynnal y llwybr ar gyfer cerddwyr y dyfodol.”
Dywedodd Owen Griffkin, Swyddog Datblygu Rheilffordd Gymunedol Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Lein Calon Cymru: “Rydyn ni falch dros ben o gefnogi’r syniad gwych hwn i annog mwy o bobl i ddefnyddio Llwybr Lein Calon Cymru. Treulio amser yn yr awyr agored yn ein hardaloedd cefn gwlad gwyrdd yw un o’r ffyrdd gorau o wella llesiant meddyliol a chorfforol a bydd pobl nawr yn gallu cofnodi eu teithiau a chael eu gwobrwyo. Rwy’n hoff iawn o’r ffaith y bydd y prosiect hwn hefyd yn cysylltu’r holl bobl fydd yn defnyddio’r llwybr â busnesau lleol gwych sy’n hanfodol i’n cymunedau gwledig.”
Dywedodd Rhiannon-Jane Raftery, Cydlynydd Datblygu Rheilffyrdd Cymunedol (Cymru a’r Gororau) y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol: “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut gall Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol ysgogi datblygiad cymdeithasol ac economaidd. Trwy gysylltu defnyddwyr y rheilffordd â busnesau lleol, mae’n codi ymwybyddiaeth am yr amrywiaeth o grefftwyr a masnachwyr y gellir ymweld â nhw a gwario arian yn lleol yn yr ardaloedd gwledig iawn hyn.”
Dywedodd Melanie Lawton, Swyddog Arweiniol Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: "Mae’n ffaith hysbys bod cerdded mewn natur yn fuddiol i lesiant ac iechyd meddyliol ac yn codi’r hwyliau, a bydd y pasbort yn dod â mwy o gyfleoedd i gefnogi datblygiad economaidd lleol, twristiaeth gynaliadwy a chreu gwell cysylltiadau rhwng cymunedau â’u rheilffordd."
Lansiwyd Llwybr Lein Calon Cymru yn 2019 ac mae’n cysylltu gorsafoedd ar hyd un o reilffyrdd gwledig mwyaf Prydain, gan ei gwneud yn bosibl i fwynhau’r daith fesul darnau gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Cafodd y llwybr ei greu i annog teithio cynaliadwy a dod â manteision economaidd i gymunedau ar hyd y lein.
Gellir prynu Pasbort Llwybr Lein Calon Cymru ar-lein ac mae’n para am byth, felly gall cerddwyr gasglu stampiau dros gyfnod o fisoedd neu flynyddoedd hyn yn oed wrth iddynt ddarganfod gwahanol rannau o’r daith. Gallwch brynu Pasbort y Llwybr yma.








