Teithio i Sioe Frenhinol Cymru gyda Trafnidiaeth Cymru


Eleni, unwaith eto, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn annog ymwelwyr i deithio'n gynaliadwy i'r digwyddiad, ac mae’r gwasanaethau rheilffordd a bysiau yn cynnig llwybrau cyfleus i Faes y Sioe.


Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru o ddydd Llun 20 hyd ddydd Iau 23 Gorffennaf ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, ac mae’n denu miloedd o ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt bob blwyddyn. Gyda mwy o ffocws ar deithio cynaliadwy a lleddfu tagfeydd o amgylch y digwyddiad, mae'r trefnwyr yn annog y rheiny sy’n dod i’r Sioe i ystyried teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys gwasanaethau rheilffordd i orsaf Builth Road sydd ychydig dros filltir o Faes y Sioe.


Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ymwelwyr sy'n teithio i'r digwyddiad, gyda gwasanaethau rheilffordd yn cysylltu o bob rhan o Gymru a'r gororau, gan gynnwys llwybrau o Gaerdydd trwy rai o ardaloedd gwledig harddaf Cymru. Bydd bysiau gwennol am ddim yn teithio rhwng gorsaf Builth Road a Maes y Sioe trwy gydol yr wythnos, a bydd gwasanaethau bws TrawsCymru hefyd yn cynnig ffordd arall i ymwelwyr deithio i'r Sioe. 


Gall ymwelwyr sy'n teithio ar y trên ar lein Calon Cymru, ac sydd â thocyn rheilffordd dilys, brynu tocynnau mynediad i’r Sioe Frenhinol am bris gostyngol o £35 (Oedolion) ac £11 (Plant) gan y tocynnwr neu o swyddfeydd tocynnau ar hyd y llwybr. Mae plant o dan 16 oed yn teithio am ddim gydag oedolyn sydd â thocyn.


Er mwyn helpu i hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus fel ffordd o deithio i'r digwyddiad, mae Trafnidiaeth Cymru a Thîm Rheilffordd Cymunedol Calon Cymru wedi creu fideo hyrwyddo newydd sy’n dangos tocyn trên enfawr yn teithio ar hyd y llwybr o Gaerdydd i Builth Road. Mae'r fideo’n dangos tirwedd drawiadol Cymru ac yn dangos mor hawdd yw teithio i'r Sioe Frenhinol ar y trên.


Bydd gan Trafnidiaeth Cymru a Network Rail stondin ryngweithiol yn y Sioe hefyd, gydag amrywiaeth o weithgareddau diogelwch ar y rheilffordd ac adloniant i’r teulu. Bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau profiadau penset Realiti Rhithwir, sesiynau amser stori, dosbarthiadau gwneud bathodynnau a pherfformiadau am ddiogelwch ar y rheilffordd, a bydd Côr Meibion Llanfair-ym-Muallt yn ymweld â'r stondin ar ddydd Llun y Sioe.


Os ydych chi o dan 16 oed ac yn teithio ar y trên i’r Sioe, ar lein Calon Cymru, peidiwch ag anghofio casglu eich taflen weithgareddau am ddim tra byddwch chi ar y trên. Yna, gallwch ddod â’ch gwaith celf i stondin Trafnidiaeth Cymru yn y Sioe am gyfle i ennill gwobr.


Mae teithio ar y trên neu’r bws yn cynnig ffordd gynaliadwy a di-straen i ymwelwyr fwynhau un o ddigwyddiadau mwyaf Cymru, a helpu i leihau tagfeydd traffig yn ystod wythnos brysur y Sioe ar yr un pryd. Anogir ymwelwyr i gynllunio’u siwrneiau ymlaen llaw gan ddefnyddio gwefan Trafnidiaeth Cymru a’r offeryn cynllunio teithiau.


Mae rhagor o wybodaeth am deithio ar wefan Trafnidiaeth Cymru, ac mae’r wybodaeth am y digwyddiad a thocynnau i gyd ar wefan CAFC.




21 July 2026
Mae Llwybr Cyfeillion Lein Calon Cymru wedi lansio pasbort newydd gyda’r nod o wella’r profiad o gerdded ar hyd y Llwyr pellter hir a ysbrydolwyd gan y rheilffordd, tra’n cefnogi busnesau bach lleol ar hyd y ffordd.
21 July 2026
The Friends of the Heart of Wales Line Trail have officially launched a new passport designed to enhance the experience of walking their long-distance, railway-inspired Trail while supporting small businesses along the way.
3 July 2026
WIN a trip for two adults and 4 children to the Royal Welsh Show between 20 and 23 July 2026.
27 June 2026
The Royal Welsh Agricultural Society and Transport for Wales are encouraging visitors to travel sustainably to this year’s RoyalWelshShow, with rail and bus services providing convenient routes to the showground.
2 June 2026
Rydym yn falch o lansio cynllun grant newydd sydd wedi’i anelu at sefydliadau, cymdeithasau a chlybiau chwaraeon i hwyluso digwyddiadau a fydd yn eu helpu i gynyddu eu haelodaeth ac annog teithio cynaliadwy.
2 June 2026
We are pleased to launch a new grant scheme aimed at sporting organisations, associations and clubs to facilitate events that will help them increase their membership and encourage sustainable travel.
25 March 2026
Community Rail Partnership has been recognised at the Community Rail Awards 2026, claiming second place in the prestigious Tourism and Leisure category for its innovative Make and Trade project.
8 February 2026
Rydym wedi gofyn i 5 person sydd ag angerdd am Gerddoriaeth Gymreig restru 3 cân Gymraeg yr hoffent eu rhannu gyda ni. We have asked 5 people with a passion for Welsh Music to list 3 Welsh language songs that they wanted to share with us.
28 January 2026
We are encouraging our communities to take part in Repair Cafe Wales' Fix it Feb Campaign.
Woman in maroon attire stands on a train platform next to a blue and white train with a landscape mural.
17 September 2025
We pleased to announce the appointment of Samantha Skyrme as our new Chairperson, bringing new passion and inspiration to support sustainable travel, strengthen community connections, and encourage economic growth along this much-loved scenic route.