O gludo nwyddau yn y dyddiau cynnar a milwyr yn y Rhyfel Mawr i ddarparu cyswllt cludiant cyhoeddus hanfodol heddiw, mae Lein Calon Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw ym mywyd cymunedau. Adeiladwyd y rheilffordd i gludo glo o byllau glo dwfn cymoedd Cymru i’r Gogledd i'r llu o ffatrïoedd oedd yn agor yn y chwyldro diwydiannol. Dyma un o’r ychydig reilffyrdd gwledig i oroesi blynyddoedd ‘Bwyell’ ddrwg-enwog Beeching ac fe’i gelwir hefyd yn Lein Canol Cymru.
Mynedfa i Gymru
Mae taith ar Lein Calon Cymru yn brofiad bendigedig, ond mae mae hefyd yn gyfle prin i brofi’n uniongyrchol un o’r ychydig drenau gwledig go iawn sydd ar ôl yn y DU. Mae ein gorsafoedd yn fynedfeydd i gymunedau bywiog, cefn gwlad wefreiddiol o brydferth a cherdded, dringo, seiclo a gweithgareddau awyr agored gwych yng Nghymru a’r Gororau. Mae pawb wrth eu bodd yn teithio ar y trên ac erbyn heddiw mae Lein Calon Cymru yn atynfa ymwelwyr ynddi hi ei hun.