Ar Orffennaf 10fed 2020 lansiodd Cwmni Datblygu Lein Calon Cymru gronfa gwerth £10,000 i helpu cymunedau ar hyd y lein i ail-adeiladu wedi effeithiau pandemig Coronafeirws.


Roedd yr arian, oedd ar gael i ymgeisyddion tan ddiwedd Awst 2020, yn galluogi grwpiau o fewn 10km i orsaf drenau ar y lein i gynnig am hyd at £500 yr un. Darparodd Trafnidiaeth Cymru 50% o’r arian fel rhan o’u hymrwymiad i reilffyrdd cymunedol.


Oherwydd y pandemig nid oeddem wedi gallu cynnal ein rhaglen arferol o brosiectau marchnata a chymunedol, ac yn eu lle penderfynodd Cyfarwyddwyr Bwrdd Lein Calon Cymru ddefnyddio’r arian i helpu grwpiau cymunedol ar hyd y lein i barhau’n weithgar a gwrthsefyll effeithiau ariannol y pandemig. Roedd gan y gronfa feini prawf bras a’r bwriad oedd bod yn hyblyg a llenwi’r bylchau nad oedd cronfeydd eraill yn eu cyrraedd, fel talu rhent neu filiau cyfleustodau. Roeddem yn ddiolchgar i gael help Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys i weinyddu’r gronfa, a bu cymdeithasau tebyg o Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Swydd Amwythig yn cynorthwyo hefyd.

 

Sir Gaerfyrddin

Derbyniodd Cymdeithas Neuadd Les Garnswllt £500 i brynu 2 liniadur ac offer PPE yn neuadd y pentref i’w defnyddio gan y gymuned. Eu nod yw mynd i’r afael â’r unigrwydd y mae llawer o bobl yn y pentref yn ei ddioddef trwy eu cysylltu’n rhithiol â theulu a ffrindiau sydd wedi methu dod i’w gweld yn ystod y sefyllfa bresennol. Byddai’r gliniaduron hefyd ar gael ar gyfer gweithgareddau eraill fel siopa ar y we.

Derbyniodd HAFAL £500 i gynnal prosiect garddio yn eu canolfan adnoddau yn Rhydaman. Defnyddir yr arian i brynu peiriant torri gwair, strimiwr ac offer garddio bychain eraill a hadau er mwyn cyflawni nodau eu prosiect. Oherwydd Covid-19 mae llawer o’u cleientiaid wedi bod yn hunan-ynysu, ac mae’r prosiect hwn yn ceisio’u cael i fod yn rhan o’u cymuned leol unwaith eto a lleihau effaith mwy o unigrwydd, gorbryder ac arwahanrwydd ar eu hiechyd a llesiant.

 

Derbyniodd Canolfan y Byddar/Ieuenctid Llanelli £500 i wella eu lle chwarae awyr agored a darparu drychau synwyriadol ar gyfer eu haelodau iau. Bydd y drychau’n cynnig symbyliad synwyriadol a gweithgareddau corfforol i blant fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu llesiant emosiynol a chorfforol.

 

Derbyniodd Clwb Rygbi Penybanc £250 i helpu prynu offer ar gyfer eu timau mini ac iau. Bydd yr arian yma’n sicrhau bod gan y timau yr offer angenrheidiol i allu ail-ddechrau ymarfer, sy’n rhoi cyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn chwaraeon a’u mwynhau, tra ar yr un pryd yn gwneud ffrindiau ar hyd y daith a datblygu eu sgiliau bywyd mewn gwaith tîm. 

 

Powys

Derbyniodd Grŵp Sgowtiaid 1af Llandrindod £492 tuag at eu costau rhedeg hanfodol, gan gynnwys Arian y Pen, Yswiriant Offer a Storio. Oherwydd Covid-19 mae eu ffynonellau incwm arferol fel gweithgareddau codi arian a thanysgrifiadau wedi cael eu gohirio. Bydd yr arian yma’n golygu y gallant ail-gychwyn eu gweithgareddau yn ddiogel, a chaniatáu iddynt barhau i ddarparu gweithgareddau sgiliau bywyd hanfodol i’w haelodau fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu llesiant emosiynol, corfforol a chymdeithasol.

Derbyniodd Canolfan Gefnogaeth Cancr Bracken Trust £500 i ariannu staff i ddatblygu a darparu grŵp cefnogi i’w cleifion sy’n profi arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd ond nad ydynt angen yr un lefel o gefnogaeth y mae’r tîm nyrsio yn ei gynnig. Bydd yr arian yn galluogi staff wedi’u hyfforddi i wneud galwadau misol i’w cleifion a datblygu ‘boreau coffi rhithiol’ trwy Zoom. Bydd hyn yn helpu cleifion i adfer eu hyder a chymryd rhan mewn cyfleoedd cymdeithasol eraill.

Derbyniodd Grŵp Cymunedol Heol Llanfair ym Muallt £430 ar gyfer prynu peiriant torri gwair batri hunan-yrru er mwyn gofalu’n iawn am yr ardd gymunedol a’r lle chwarae cymunedol a ddaeth yn fwy a mwy poblogaidd yn ystod y cyfnod clo. Mae Covid-19 wedi atal cyfleoedd codi arian er mwyn prynu peiriant torri gwair petrol yn lle’r un presennol sydd wedi hen weld ei ddyddiau gorau. Trwy brynu peiriant newydd, bydd y grŵp yn gallu cadw eu llecynnau cymunedol yn ddiogel a deniadol i drigolion lleol ac ymwelwyr, gan annog gweithgareddau corfforol a chynhwysiant cymdeithasol.

Derbyniodd Canolfan Gymunedol Trefyclo & Cylch £410 i brynu offer fyddai’n eu galluogi i sefydlu grŵp natur a gwyddoniaeth i blant a’u rhieni/gofalwyr yn yr ardal. Bwriad sefydlu’r grŵp hwn fydd annog plant a’u gofalwyr i ddangos cywreinrwydd ac archwilio eu hardal leol. Fe fydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn tyfu a choginio eu bwyd eu hunain a dysgu am ffyrdd o ofalu am yr amgylchedd trwy chwarae mwy o ran ym mywyd y gymuned a gwella eu llesiant a’u hyder.

Derbyniodd Sied Ddynion Llandrindod £500 er mwyn uwchraddio eu llecyn teclynnau llaw a chydosod a chreu amgylchedd mwy diogel i aelodau a’u galluogi i drefnu mwy o brosiectau i’r dyfodol. Mae’r Sied Ddynion yn gobeithio creu llecynnau gweithio gyda phellter cymdeithasol ac annog cyd-drafod trwy weithio ar y cyd ar brosiectau bach er budd y gymuned.


Derbyniodd Cymdeithas Hanes Llangamarch £180 o’r gronfa gydnerthedd i barhau â’r gwaith o ddatblygu eu gwefan gynhwysfawr ar gyfer pobl sy’n ymddiddori mewn hanes lleol. Mae Covid-19 wedi golygu nad yw’r Gymdeithas Hanes wedi gallu parhau â’u hymdrechion codi arian i gefnogi eu gwefan. Erbyn hyn, bydd y Gymdeithas yn gallu parhau i greu a chofnodi hanes wrth iddo ddigwydd a chadw a gofalu am yr atgofion a’r ffeiliau sain yn dyddio’n ôl mor bell â’r 1900oedd.


Derbyniodd Pwyllgor Rheoli Neuadd Gymunedol Llangynllo £500 fydd yn cyfrannu at gost adeiladu rheiliau er mwyn diogelu’r llecyn tir glas mawr y tu allan i’w neuadd. Lleolir y neuadd yn agos at ffordd brysur iawn, a byddai codi rheiliau a gatiau yn ei wneud yn lle llawer mwy diogel a deniadol ar gyfer cynnal digwyddiadau.

 

Derbyniodd Canolfan Gymunedol Penybont & Cylch £498 i ofalu am yr offer llwyfannu er budd eu defnyddwyr a’r gymuned wledig. Pan mae gweithgareddau arferol yn ail-gychwyn, bydd yr arian hwn yn sicrhau bod y darn hollbwysig hwn o offer wedi cael gwasanaeth a’i fod yn ddiogel i’w ddefnyddio.

Derbyniodd Canolfan Windfall £340 er mwyn prynu dau Ap Hambwrdd Tywod Rhithiol i’w defnyddio yn eu sesiynau Therapi Tele Chwarae newydd ar gyfer plant 5-15 oed. Bydd yr ap yn helpu mynd i’r afael ag anghenion plant i fynegi’r gofidiau ac ofnau all fod yn rhan o’u profiad o arwahanrwydd. Bydd defnyddio therapi rhith chwarae yn helpu’r mudiad i barhau i gefnogi teuluoedd sy’n cysgodi.

Abertawe

Derbyniodd 4ydd Grŵp Sgowtiaid Dyffryn Lliw £280 o’r gronfa gydnerthedd i’w cefnogi gyda’u costau rhedeg rheolaidd. Yn uniongyrchol oherwydd Covid-19 mae’r grŵp wedi colli eu hincwm a fyddai wedi talu’r treuliau hyn. Bydd y gronfa yn helpu sicrhau, pan mae grwpiau a gweithgareddau yn gallu ail-gychwyn, y bydd yna le diogel i fynd yn ôl iddo.

Derbyniodd 6ed Grŵp Sgowtiaid Llangyfelach £450 o’r gronfa gydnerthedd i brynu sgrin a thaflunydd i’w defnyddio gyda’u haelodau i ddod â chysyniadau a delweddau yn fyw. Bydd yr offer hwn yn galluogi arweinyddion i gysylltu’n ddigidol ag adnoddau ar-lein a chyfoethogi’r profiad a gynigir i blant, pobl ifanc, rhieni ac arweinyddion sgowtiaid eraill. Hefyd, gellid defnyddio’r offer hwn i greu incwm ar gyfer y grŵp trwy ei logi i bobl eraill.

Derbyniodd Clwb Pêl Droed Tref Pontarddulais £250 tuag at brynu gwisg newydd ar gyfer eu tîm menywod newydd ei sefydlu ond penderfynol. Cafodd aelodau’r clwb eu heffeithio’n fawr gan farwolaeth gweithiwr meddygol adnabyddus ac uchel ei barch oedd yn cefnogi’r gwahanol glybiau chwaraeon yn y cylch. Y gobaith yw y bydd y wisg newydd yn cefnogi aelodau i symud ymlaen trwy roi hwb i’w hyder a’u gallu ar y cae.

Derbyniodd Band Tref Pontarddulais £500 tuag at eu hymdrechion codi arian ar gyfer gwneud atgyweiriadau hanfodol i wal ffin ystafell y band er mwyn ei gwneud yn ddiogel ar gyfer aelodau’r band a’r cyhoedd. Mae’r band yn darparu cerddoriaeth ar gyfer llawer o ddigwyddiadau lleol, mae’n annog yr ifanc a’r hen i wneud cerddoriaeth ac mae’n cynnal gweithdai ar gyfer y gymuned leol yn rhad ac am ddim. Pan ganiateir iddo wneud hynny, hoffai’r band barhau â’r gweithgareddau hyn er mwyn cynnal mudiad y bandiau pres mewn amgylchedd diogel a hygyrch.

Derbyniodd Tîm Pêl Droed Iau Tref Pontarddulais £250 tuag at gost prynu offer newydd a hyfforddiant ar gyfer eu hadran merched newydd. Bydd datblygu adran merched newydd yn y clwb yn annog mwy o ferched i ddechrau chwarae pêl droed, a bydd hynny’n hyrwyddo eu llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol.

Swydd Amwythig

Derbyniodd Neuadd Bentref Clungunford £350 tuag at gost paentio cragen allanol eu hadeilad i’w ddiogelu rhag y tywydd. Mae’n rhaid dal ati i ofalu am y neuadd er mwyn darparu lleoliad diogel ar gyfer gwasanaethau, gweithgareddau ac adloniant y neuadd. Dyma’r unig gyfleuster sydd ar ôl yn y pentref, ac maen nhw’n amcangyfrif ei bod yn ystod y flwyddyn yn gwasanaethu tua 3000 o unigolion gwahanol.

Derbyniodd Clwb Ieuenctid Hanwood £500 o’r gronfa gydnerthedd er mwyn cynnal gweithgaredd arbennig ar gyfer y bobl ifanc pan maen nhw’n cael yr hawl i ail-ddechrau cynnal eu clwb ieuenctid. Mae’r gronfa hon yn ceisio annog yr aelodau i ddod yn ôl i’r clwb, fydd yn anelu at ddarparu amgylchedd diogel, cyfeillgar, creadigol ac adeiladol i bobl ifanc gyfarfod a chwarae ynddo, gan roi sgiliau cymdeithasol gwych i blant ar gyfer eu dyfodol ac er lles y gymuned.

 

Derbyniodd Lovely Land Social Enterprise £500 i lansio ac ail-ddylunio eu Prosiect Gardd Gymunedol Castlefields er mwyn creu amgylchedd diogel gydag ymbellhau cymdeithasol. Trwy weithio gyda sefydliadau eraill i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, bydd y prosiect hwn yn creu cyfleoedd i ddod â’r gymuned at ei gilydd a chymryd rhan mewn prosiect ar y cyd.

Share by: