Ewch ar y trên yn yr Amwythig ac anelwch am y de a chyn bo hir byddwch mewn rhanbarth nad yw datblygiadau trefol na diwydiannol wedi ei gyffwrdd bron, ar wahân i’r ffermio traddodiadol.
Mae’r byd yn agor wedi gadael y dref, gydag un o’r ardaloedd cyntaf i’w dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Croeso i Fryniau Amwythig. Mwynhewch y golygfeydd bob cam i Drefyclo, neu gadewch y trên yn un o’r gorsafoedd llai ar hyd y ffordd:
Church Stretton
Gadewch y trên yn y fan hon er mwyn mynd am dro – neu redeg – i fyny’r Long Mynd neu edrychwch o gwmpas sioe’r stryd fawr a chaffis y dref cerddwyr hon. Ar ochr arall Church Stretton ceir Caer Caradoc a’r Wenlock Edge atmosfferig tu hwnt.
Craven Arms
Gadewch y trên yn y fan hon i ddechrau ar Lwybr Cerdded Lein Calon Cymru. Peidiwch ag anghofio canolfan arddangos a chaffi Canolfan Ddarganfod Shropshire Hills – taith gerdded o bum munud yn unig ar hyd y ffordd o’r orsaf.
Broome, Hopton Heath a Bucknell
Mae’r gorsafoedd bach hyn yn fynedfeydd i gefn gwlad ardderchog i gerdded a seiclo gyda llwybrau coedwig a llwybrau goriwaered yn Bucknell a Hopton Heath.
Mwynhewch awyrgylch gwych y tafarnau lleol, profwch y cynnyrch lleol, efallai aros am noson neu ddwy mewn gwely a brecwast teuluol. Chwiliwch am hen eglwysi prydferth, toreth o stiwdios celf agored a chaffis celf, bridiau defaid anarferol, siopau a chaffis cymunedol ar hyd y ffordd.
Wyddech chi:
Yn y gororau y ceir y nifer fwyaf o gestyll mwnt a beili yng Nghymru a Lloegr?