Cymunedau

Gorsafoedd a Chymunedau

Mae pob gorsaf ar hyd Lein Calon Cymru’n fynedfa i gymuned. Yn wahanol i orsafoedd trefol uchel eu defnydd, ychydig o gaffis neu siopau papur masnachol sydd gennym ar y gorsafoedd ar Lein Calon Cymru, ar wahân i orsafoedd mwy y naill ben a’r llall.

Yn hytrach, mae pob gorsaf ar gael i bobl leol – garddwyr, rhai selogion y rheilffordd, mentrau gwledig bach a gwirfoddolwyr.

Dyma restr lawn y gorsafoedd, o'r gogledd i'r de. Mae'n cymryd cryn amser i orffen y cyhoeddiadau dwyieithog! 

Yr Amwythig, Church Stretton, Craven Arms, Broome, Hopton Heath, Bucknell, Trefyclo, Cnwclas, Llangynllo, Ffordd Llanbister, Dolau, Pen-Y-Bont, Llandrindod, Ffordd Llanfair ym Muallt, Cilmeri, Garth, Llangamarch, Llanwrtyd, Pen y Fâl, Cynghordy, Llanymddyfri, Llanwrda, Llangadog, Llandeilo, Ffairfach, Llandybie, Rhydaman, Pantyffynnon, Pontarddulais, Llangennech, Bynie, Llanelli, Tregwyr, Abertawe. 

Dyma ddisgrifiadau o rai o'r gorsafoedd a'r trefi mwy, ond mae gan bob gorsaf fach a chymuned stori i'w hadrodd. 

LLANYMDDYFRI

Mae caffi cymunedol sydd wedi ennill gwobrau yng ngorsaf Llanymddyfri. Os gadewch y trên yn yr orsaf hon, galwch mewn am de, coffi a thafell o gacen gartref flasus. Mae Te Prynhawn Arbennig Joan ar gyfer grwpiau yn wledd wirioneddol dda – cofiwch fwcio ymlaen llaw ar 01550 731283. Plant Ysgol Gynradd Llanymddyfri sy’n gofalu am y gerddi sydd y tu ôl i blatfform y gogledd. Er mwyn cael mwy o wybodaeth ewch i'w tudalen Facebook.

Cyfleusterau

Parcio am ddim: OES.

Swyddfa docynnau:  NAC OES.

Toiled: OES (i gwsmeriaid y caffi).
Caffi: OES.
Mynediad i Lwybr Cerdded Lein Calon Cymru:  OES.

Nodweddion arbennig:

Nid yw Castell Llanymddyfri a cherflun Llywelyn ap Gruffydd Fychan ond taith gerdded fer o’r orsaf ac mae'n werth galw heibio i'w gweld. Mae treftadaeth y rheilffordd yn rhan bwysig o hanes Lanymddyfri. Yng nghaffi’r orsaf gellir gweld arddangosfa o hanes y lein ac mae clwb rheilffordd model yn cyfarfod yn yr ystafell nesaf at y caffi. Yn wreiddiol, roedd Côr Meibion Llanymddyfri, a ganodd yn ddiweddar adeg lansio llwybr cerdded lein Calon Cymru, yn gôr rheilffordd.


Mwy am Lanymddyfri: http://www.lovellandovery.co.uk

LLANDEILO

Mae swyddfa Cwmni Datblygu Calon Cymru yn Hwb Gorsaf Llandeilo ac mae croeso ichi alw heibio os ydym yn y swyddfa.

Cyfleusterau

Parcio am Ddim:  OES.

Swyddfa docynnau: NAC OES.

Mynediad i Lwybr Cerdded Lein Calon Cymru: OES.

Nodweddion arbennig:

Mae Llandeilo, a fu ar un adeg yn dref sirol Sir Gaerfyrddin, yn dref liwgar, ddarluniadwy yn cynnwys nifer o siopau bach annibynnol: dillad ffasiynol gan gynnwys labeli cynllunwyr, celfi wedi’u harchebu, cyflenwyr bwyd sydd wedi ennill gwobrau, crefftau lleol a llawer mwy. Cofiwch alw heibio Eglwys hanesyddol Sant Teilo neu Gastell Dinefwr, Parc Dinefwr a gwarchodfa bywyd gwyllt, i gyd o fewn pellter cerdded o’r orsaf. Os oes gennych gludiant i fynd ymlaen, rydym hefyd yn argymell Gerddi Aberglasne a Gerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru.


Mwy am Landeilo:   http://www.visitllandeilo.co.uk

LLANELLI

Yn ddiweddar, adnewyddwyd gorsaf Llanelli gydag ystafelloedd aros a thoiledau newydd. Mae cynlluniau gan Ffrindiau’r Orsaf ar gyfer gardd orsaf newydd ac maent yn gweithio’n galed i sicrhau cyllid i adnewyddu Sied Nwyddau’r Rheilffordd a’i ddatblygu yn ganolfan cymunedol ar gyfer y celfyddydau, cefnogaeth i fusnesau a chaffi, yn ogystal ag arddangos treftadaeth ddiwydiannol yr ardal.

Cyfleusterau

Toiledau:  OES.

Swyddfa Docynnau:  OES.

Caffi:  OES.
Mynediad i Lwybr Cerdded Lein Calon Cymru:  OES.

Cyfleusterau Ar Agor:

Llun – Gwener 06.10 – 12.40

Sadwrn 07.00 – 13.30

Sul Ar Gau


Mwy am Lanelli:   www.facebook.com/LlanelliTrain/

LLANWRTYD

Ail-agorwyd hen adeilad gorsaf Llanwrtyd gan Drafnidiaeth Cymuned Llanwrtyd fel man gweithgareddau cymunedol a man cyfarfod. 

Cyfleusterau

Parcio am Ddim:  OES.
Swyddfa Docynnau: NAC OES.

Mynediad i Lwybr Cerdded Lein Calon Cymru: OES.

Nodweddion arbennig:

Mae Llanwrtyd yn enwog fel y dref leiaf ym Mhrydain ac am Snorcelu’r Gors. Yno hefyd y cynhelir y ras Dyn yn erbyn Ceffyl a Gemau Amgen y Byd.


https://www.green-events.co.uk

http://www.worldalternativegames.com


Amgylchynir y dref gan olygfeydd godidog Mynyddoedd deheuol Cambria ac mae’n ganolfan ardderchog ar gyfer gweithgareddau awyr agored fel cerdded, beicio mynydd, merlota, pysgota a gwylio adar. 

LLANDRINDOD

Lleolir Gorsaf Llandrindod ger canol y dref ac mae swyddfa docynnau ardderchog yno. Mae’n adnabyddus yn lleol fel y man i gael tocynnau i... wel... unrhyw fan. Mae’r ddau ddyn sy’n gweithio yno’n gwybod sut i gael y bargeinion gorau. Maent yn gweithio’n ddygn ac maent mor brysur fel nad ydyn nhw'n fodlon i ni roi eu rhif ffôn i chi felly bydd rhaid i chi fynd yno a siarad â nhw’n bersonol. Fe’u noddwyd gan Drenau Arriva Cymru yn y fasnachfraint ddiwethaf, a gobeithiwn y bydd y fasnachfraint newydd yn eu cadw.

Cyfleusterau

Parcio am Ddim:  NAC OES, rhaid i chi dalu.

Swyddfa Docynnau: OES.

Caffi:  Nid yn yr orsaf ond mae sawl un da o fewn pellter cerdded hawdd.
Mynediad i Lwybr Cerdded Lein Calon Cymru:   OES fe fydd (dydy’r adran hon ddim ar agor eto).

Nodweddion Arbennig:

Y swyddfa docynnau. Ewch am dro i’r llyn pysgota os oes gennych amser i ddarganfod bwystfil y dŵr.Os ydych yn mwynhau amgueddfeydd seiclo, mae gan Landrindod un da ac ar ddydd Gwener mae marchnad awyr agored wrth ymyl yr orsaf. Mae Gwesty’r Metropole yn fan cyfarfod ardderchog ar gyfer digwyddiadau, y gellir ei gyrchu ar y trên ac yn fan cyfarfod ar gyfer ein cynhadledd flynyddol ar gyfer mabwysiadwyr gorsaf.


https://www.metropole.co.uk


Cofiwch am: Yr Wyl Fictoraidd ym mis Awst  https://www.victorian-festival.co.uk

TREFYCLO

Mae gorsaf Trefyclo ar y ffin rhwng Lloegr a Chymru. Lleolir y dref ar fan canol Clawdd Offa enwog sydd erbyn hyn yn llwybr troed pellter hir. Yn y dref, fel yng Nghnwclas gyfagos (gorsaf arall) mae cymuned fywiog o arlunwyr sy’n agor eu stiwdios o dro i dro – oll o fewn cyrraedd ar y trên ac yn werth eu gweld.

Cyfleusterau

Parcio am Ddim: LLLEOEDD CYFYNGEDIG.

Swyddfa Docynnau:  NAC OES.

Caffi: Nid yn yr orsaf ond mae sawl un da o fewn pellter cerdded hawdd ac mae Gwely a Brecwast da 

(The Kinsley) yn union gyferbyn.
Mynediad i Lwybr Cerdded Lein Calon Cymru: OES.

Nodweddion Arbennig:

Mae Canolfan Clawdd Offa o fewn pellter cerdded hawdd i’r orsaf. Agorodd yn 1999 ac yno ceir arddangosfa am Glawdd enwog yr 8fed Ganrif, y gorchmynwyd ei adeiladu gan Offa, Brenin Mercia. Mae’r Ganolfan, sy'n cynnwys caffi ac arddangosfa am ddim,  yn darparu ar gyfer anghenion amrediad eang o ymwelwyr ac yn y cefn mae parc hyfryd a man chwarae i blant.


https://offasdyke.org.uk/offas-dyke-association/offas-dyke-centre/

CRAVEN ARMS

Tref brysur yn Swydd Amwythig yw Craven Arms. Mae gan yr orsaf ddau blatfform ac fe’i lleolir ar y gyffordd rhwng Lein Calon Cymru a Lein Gororau Cymru. Mae’r orsaf hefyd yn nodi dechrau Llwybr Cerdded Lein Calon Cymru.

Cyfleusterau

Parcio am Ddim: OES.
Swyddfa Docynnau: NAC OES ond mae peiriant tocynnau yno

Toiledau:  NAC OES.

Mynediad i Lwybr Cerdded Lein Calon Cymru:  OES.

Nodweddion Arbennig:

Galwch heibio Ganolfan Ddarganfod Shropshire Hills yn Craven Arms lle gallwch chi gwrdd â Mamoth Swydd Amwythig, archwilio'r 30 erw o ddolydd glan yr afon ac ymlacio yn y caffi, sy'n gweini coffi da a bwyd traddodiadol wedi'i goginio gartref, gan ddefnyddio cynnyrch lleol. Mae yna hefyd siop anrhegion ac oriel.


http://www.shropshirehillsdiscoverycentre.co.uk


Disgrifiwyd Castell Stokesay yn Craven Arms fel y maenordy canoloesol caerog gorau o ran ceinder a chyflwr yn Lloegr.


http://www.english-heritage.org.uk/visit/places/stokesay-castle

Share by: