Fi ar hyn o bryd yw cadeirydd y Cwmni Datblygu ac rwyf yn un o aelodau gwreiddiol ei Fwrdd. Ar ôl cael gradd mewn Economeg gweithiais i British Rail cyn symud ymlaen at yrfa a gynhwysodd Ymgynghoriaeth Rheoli a nifer fawr o brosiectau gwahanol ym meysydd manwerthu, gofal iechyd, trafnidiaeth, twristiaeth a gwaith all-leoli. Fi oedd Swyddog Datblygu Fforwm Lein Calon Cymru am dros 15 mlynedd, a than yn ddiweddar roeddwn yn Aelod o Fwrdd Cymdeithas Partneriaethau Rheilffordd Cymunedol. Credaf fod gwneud gwell defnydd o Lein Calon Cymru yn cynnig cyfleoedd gwych i helpu gydag adfywio’r cymunedau a busnesau y mae’n eu gwasanaethu. Mae’r Cwmni Datblygu yn cynnig cyfle i gyfarwyddwyr gwirfoddol fynd â’r gwaith yma yn ei flaen.
Bûm yn un o Gyfarwyddwyr y Cwmni Datblygu er 2012, wedi imi gael gwahoddiad i ymuno oherwydd fy niddordeb a’m harbenigedd mawr mewn rheilffyrdd a marchnata. Gallaf gynnig fy mhrofiad helaeth yn dilyn gyrfa o 32 mlynedd gyda British Rail i’r cwmni, gan gynnwys wyth mlynedd pan roedd gennyf gyfrifoldeb uniongyrchol am Lein Calon Cymru ynghyd â rheilffyrdd gwledig eraill yng Nghymru. Wedi hynny, bûm yn ymgynghorydd trafnidiaeth llawrydd ym maes trafnidiaeth gyhoeddus (gan gynnwys dwy flynedd yn swyddog dros dro i bartneriaeth rheilffordd Dyffryn Conwy) ac am y 12 mlynedd diwethaf sefydlais a rheolais bartneriaeth BayTrans*, ac yn y cyfnod hwnnw datblygais arbenigedd ym maes marchnata bysiau.
Bu gennyf ddiddordeb mewn trafnidiaeth trwy gydol fy oes, a dealltwriaeth ddofn a phrofiad ymarferol o farchnata a thwristiaeth, ac yn enwedig felly gariad at Gymru, a bydd hyn oll yn fy helpu i weithio dros lwyddiant Lein Calon Cymru.
*Partneriaeth Twristiaeth & Thrafnidiaeth Cynaliadwy Bae Abertawe
Rwyf yn ceisio defnyddio fy mhrofiad a’m gwybodaeth i ddatblygu Lein Calon Cymru. Yn benodol, hoffwn weld gwasanaeth saith niwrnod yr wythnos mwy rheolaidd a dibynadwy sydd wedi cael ei gydlynu’n iawn gyda gwasanaethau bws lleol, er budd y cymunedau y mae’r lein yn eu gwasanaethu. Rwyf yn Is Gadeirydd grŵp defnyddwyr y lein, Cymdeithas Teithwyr Lein Calon Cymru.
Fel cydlynydd Grŵp Llywio Llwybr Lein Calon Cymru, rwyf yn ceisio rhoi ffocws ar annog ymwelwyr â’r ardal i ddefnyddio’r lein, ac yn enwedig felly’r cerddwyr ar Lwybr Lein Calon Cymru.
Cefais brofiad helaeth o faterion rheilffyrdd a chymunedol a’r ffordd y mae angen iddynt integreiddio trwy fod yn aelod gweithgar o Gymdeithas Teithwyr Lein Calon Cymru a Chyfarwyddydd y Cwmni Datblygu am gyfnod maith o amser. Chwaraeais ran flaenllaw yn trawsnewid gorsaf Llanymddyfri i fod yn ystafell de lwyddiannus ac yn ffocws bywyd cymunedol fel y mae erbyn hyn, sy’n cael ei chynnal trwy weithgareddau Cyfeillion Gorsaf Llanymddyfri, yr helpais eu sefydlu.
Rwyf wedi cefnogi a gwasanaethu mudiadau lleol megis bod yn Gynghorydd Tref a Chadeirydd Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin.
3 blynedd yn ôl doedd gen i ddim diddordeb mewn trenau na theithio ar reilffyrdd fel ffordd ymarferol o deithio. Yn 2018 symudasom dŷ i fyw’n llawn amser yn un o’r gorsafoedd ar Lein Calon Cymru. Ers hynny daeth rheilffyrdd yn rhan o fywyd pob dydd yng ngwir ystyr y gair a chyda hynny daeth sylweddoliad o beth mae’r lein yn ei olygu i’r cymunedau sydd wedi’u gwasgaru ar ei hyd.
Pan ddaeth y cyfle i gyfrannu at waith y Cwmni Datblygu roeddwn yn frwd iawn i wneud hynny, ac yn awyddus i’w helpu i ddatblygu ymhellach botensial Lein Calon Cymru i ddod â buddion i’r sawl sy’n byw ar hyd y llwybr a’r nifer fawr o ymwelwyr sy’n dod i’r ardal. Er eu bod yn ddyddiau cynnar imi, edrychaf ymlaen at ddefnyddio fy sgiliau rheoli prosiectau i helpu’r Cwmni Datblygu i wireddu ei nodau, yn enwedig felly pan mae’r nodau hynny’n cyd-daro â diddordebau personol cerdded a seiclo.
Treuliodd Richard y rhan fwyaf o’i yrfa yn y sector cyhoeddus, yn Gynllunydd Tref yn y lle cyntaf gan ddod yn gyfrifol am gynllunio a thrafnidiaeth mewn awdurdod unedol mawr yn Lloegr cyn dod yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin o 2003 hyd nes iddo ymddeol yn 2014. Roedd yn gyfrifol yn y swydd honno am nifer o wasanaethau rheng flaen, gan gynnwys trafnidiaeth a phriffyrdd, a gweithiodd yn helaeth gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector i ddarparu a gwella seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus . Er 2014 bu’n Gadeirydd Gwybodaeth Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru, sef y corff sy’n darparu gwasanaeth Traveline dwyieithog i Gymru.
Mae Richard yn frodor o Swydd Gaerloyw a bu’n gefnogwr hir-ddioddefus i glwb pêl droed Bristol Rovers ers tro byd.
Er fy mod wedi byw yng nghalon Cymru am bron i 50 mlynedd ac wedi mwynhau cymaint y mae ganddi i’w gynnig, rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o’r problemau a wynebwn, ac mae cyfyngiadau trafnidiaeth gyhoeddus leol a’r bygythiadau mae’n eu hwynebu yn flaenllaw yn eu plith.
Gweithiais mewn nifer o sectorau ac mewn sawl gwlad a thyfais fy musnes lletygarwch fy hun o ddim i 4 uned, profiad yr wyf yn ceisio ei rannu, yn enwedig felly yn fy rôl yn Drysorydd/Cyfarwyddwr.
Gorffennais fy ngyrfa yn uwch Ddilysydd Safonau ar gyfer cymwysterau Uwch Reoli, a byddwn yn teithio ar draws gwledydd Prydain ac yn gweld pwysigrwydd cyfuno datblygiad personol parhaus gyda phrofiad i helpu sefydliadau i gyflawni nodau a dygymod â byd sy’n newid drwy’r amser. Rwyf yn cyfuno fy niddordeb arbennig mewn cyfraith a chyllid busnes o ran busnesau bach gydag agwedd ymarferol lle y mae hynny’n bosib.
Heblaw am ymroddiad i DevCo, rwyf yn Drysorydd/Cyfarwyddwr i elusen leol, sy’n gyfle imi roi rhywbeth yn ôl i’m cymuned i, fy mhlant a’m hwyrion ac wyresau yn y Canolbarth.