Rheilffordd 200 yn cael ei lansio yn Aberystwyth

Datganiad i'r Wasg: Trafnidiaeth Cymru


Mae’r flwyddyn hon yn nodi 200 mlwyddiant y rheilffordd fodern yn y DU ac mae Cymru’n paratoi i ddathlu’r garreg filltir hanesyddol hon.


Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal drwy’r flwyddyn ledled Cymru a chynhelir y digwyddiad cychwynnol yn Aberystwyth heddiw.


Dywedodd Dr Louise Moon, Arweinydd Rhaglen Rheilffordd 200 Trafnidiaeth Cymru, ei bod hi’n gyffrous i arddangos hanes Cymru yn ogystal â hyrwyddo’r datblygiadau newydd sydd bellach yn digwydd.


Dywedodd hi: “Rydyn ni’n hynod o gyffrous i rannu cymaint o hanes Cymru gyda’n cymunedau, gan adrodd yr holl straeon am arloesedd, cryfder, a phenderfyniad.


“Mae Rheilffordd 200 yn dathlu cymaint o’n hanes cymdeithasol a diwylliannol ynghyd â’r ffordd wnaeth y rheilffyrdd drawsffurfio’n gwlad a’i gwneud hi’r hyn y mae heddiw.


“Gyda dyfodiad y rheilffordd, gwnaeth trefi fel Aberystwyth dyfu’n eithriadol. Braf felly, yw lansio’r flwyddyn o ddigwyddiadau yma.


“Nid yn unig yr ydym eisiau ysbrydoli cenhedlaeth newydd gyda’n hanes yr ydym mor falch ohono, wrth inni ddatblygu prif waith trawsffurfio nesaf ein rhwydwaith, a fydd yn cysylltu cenhedloedd y dyfodol o fewn Cymru, rydym hefyd am ei hysbrydoli gyda’r wyddoniaeth, technoleg ac arloesedd sydd bellach yn bodoli.”


Er i’r garreg filltir nodi 200 blynedd ers y daith gyntaf i gwsmeriaid ar Reilffordd Stockton & Darlington ar 25 Medi,1825, gall Cymru hawlio rhan enfawr yn hanes y daith nodedig honna.


Ym 1804, dylunwyd locomotif Penydarren gan y peiriannydd Cernywaidd, Richard Trevithick, a wnaeth dynnu 10 tunnell o lo am 10 milltir rhwng Gwaith Haearn Penydarren ym Merthyr Tydfil ac Abercynon.


Tair blynedd wedyn, ym 1807, gwelwyd teithwyr cyntaf y byd yn prynu tocynnau ar gyfer Rheilffordd Abertawe a’r Mwmbwls. Byddai ceffylau yn lle locomotifau’n tynnu cerbydau ar hyd y traciau trên a fyddai’n brofiad hynod o boblogaidd i lawer.


Mae Trafnidiaeth Cymru yn dod yn rhan o’r hanes hwnnw drwy drydaneiddio llinellau craidd y cymoedd yn ne-ddwyrain Cymru, adeiladu gorsafoedd a depos newydd, a buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd.


Dyma’r pedair prif thema a fydd yn cael eu harchwilio fel rhan o’r cynlluniau ehangach i adrodd hanes Rheilffordd 200 ledled y DU.


· Sgiliau ac Addysg

· Arloesedd, Technoleg a’r Amgylchedd

· Treftadaeth, Diwylliant a Thwristiaeth

· Dathlu Pobl y Rheilffordd


Am ragor o wybodaeth, ewch i Mae Rheilffordd 200 ar y gweill | Trafnidiaeth Cymru 


21 July 2026
Mae Llwybr Cyfeillion Lein Calon Cymru wedi lansio pasbort newydd gyda’r nod o wella’r profiad o gerdded ar hyd y Llwyr pellter hir a ysbrydolwyd gan y rheilffordd, tra’n cefnogi busnesau bach lleol ar hyd y ffordd.
21 July 2026
The Friends of the Heart of Wales Line Trail have officially launched a new passport designed to enhance the experience of walking their long-distance, railway-inspired Trail while supporting small businesses along the way.
3 July 2026
WIN a trip for two adults and 4 children to the Royal Welsh Show between 20 and 23 July 2026.
27 June 2026
Eleni, unwaith eto, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn annog ymwelwyr i deithio'n gynaliadwy i'r digwyddiad, ac mae’r gwasanaethau rheilffordd a bysiau yn cynnig llwybrau cyfleus i Faes y Sioe.
27 June 2026
The Royal Welsh Agricultural Society and Transport for Wales are encouraging visitors to travel sustainably to this year’s RoyalWelshShow, with rail and bus services providing convenient routes to the showground.
2 June 2026
Rydym yn falch o lansio cynllun grant newydd sydd wedi’i anelu at sefydliadau, cymdeithasau a chlybiau chwaraeon i hwyluso digwyddiadau a fydd yn eu helpu i gynyddu eu haelodaeth ac annog teithio cynaliadwy.
2 June 2026
We are pleased to launch a new grant scheme aimed at sporting organisations, associations and clubs to facilitate events that will help them increase their membership and encourage sustainable travel.
25 March 2026
Community Rail Partnership has been recognised at the Community Rail Awards 2026, claiming second place in the prestigious Tourism and Leisure category for its innovative Make and Trade project.
8 February 2026
Rydym wedi gofyn i 5 person sydd ag angerdd am Gerddoriaeth Gymreig restru 3 cân Gymraeg yr hoffent eu rhannu gyda ni. We have asked 5 people with a passion for Welsh Music to list 3 Welsh language songs that they wanted to share with us.
28 January 2026
We are encouraging our communities to take part in Repair Cafe Wales' Fix it Feb Campaign.